Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Mae’n amser mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal”

  • Tweet
Thursday, 17 October, 2019
  • Local News

Ar ôl canfod mai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mae’r nifer uchaf o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn y GIG yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders, y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, yn galw am weithredu i fynd i’r afael â’r oedi hynny.

 

Ystyr oedi wrth drosglwyddo gofal yw pan fo claf mewnol mewn ysbyty, sy’n barod i symud i’r cam nesaf o ofal, yn cael ei atal rhag gwneud hynny am un rheswm neu’r llall.

 

Ym mis Awst 2019, cofnododd y Bwrdd Iechyd 99 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal. Roedd 81 achos o aros am hyd at dair wythnos, 7 am hyd at 6 wythnos, a 2 dros 26 wythnos. Dyma’r nifer uchaf ers mis Hydref 2018.

 

Wrth drafod y cynnydd mewn oedi, dywedodd Janet:

 

“Mae’n boen meddwl go iawn bod cleifion mewnol yn parhau i wynebu oedi diangen yn nilyniant eu gofal.

 

“Rwyf wedi ystyried achosion yr oedi yn ein bwrdd iechyd yn fanwl, ac mae’n ymddangos mai’r prif broblemau yw’r trefniadau gofal cymunedol, y gofal sydd ar gael mewn cartrefi gofal a threfniadau gofal iechyd.

 

“Yr wythnos diwethaf, neilltuais fy nadl gryno i egluro sut gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi cartrefi gofal a rhoi diwedd ar y duedd i gau’r  cartrefi hyn, ac fe ddylai helpu gyda’r gofal sydd ar gael os yw’r Dirprwy Weinidog yn cadw at ei gair ac yn rhoi fy mholisïau ar waith.

 

“Fodd bynnag, mae’n bryd i ni ddelio ag oedi wrth drosglwyddo gofal nawr drwy roi strategaeth glir ar waith – dylai hyn helpu i wyrdroi’r nifer cynyddol o gleifion sy’n dioddef.

 

“Mae gen i brofiad personol o’r straen mae’r sefyllfa yn ei achosi i gleifion a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Felly, gallwch fod yn siŵr y byddaf yn dal ati i weithio i helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu hunain yn yr un strach”.

 

DIWEDD

 

Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad i Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

All y Gweinidog egluro sut y byddwn yn ymdrin â’r cynnydd yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 

Nodiadau:

 

Oedi wrth drosglwyddo gofal: Awst 2019

 

Hyd yr oedi yn ôl darparwr Bwrdd Iechyd Lleol a band oedi

 

Rheswm dros yr oedi yn ôl darparwr Bwrdd Iechyd Lleol

You may also be interested in

Janet

Come and Raise Your Concerns

Monday, 12 January, 2026
Do you have any concerns about poor access to GP appointments, annual council tax increases, delays in hospital treatment, anti-social behaviour, or anything else? Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is holding a public meeting to discuss the issues that matt

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree