Ar ôl ymgyrchu am flynyddoedd i weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wella'r A470 a mynediad iddi yn Aberconwy, mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, heddiw wedi cael ymrwymiad gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i’r canlynol.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal arfarniad cam 1 WelTAG o'r llwybr o Glan Conwy i Fetws-y-coed yn y flwyddyn ariannol nesaf (2022/23)
- Mae swyddogion wrth law i drafod unrhyw gynigion sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Pont Fawr ac ystyried unrhyw welliannau y gellid eu gwneud i'r gefnffordd er mwyn hwyluso cynigion o'r fath.
Daw'r newyddion hyn wedi i AS Aberconwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chais i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i gael ateb amgen a reolir gan oleuadau traffig ar yr A470 ar gyfer Pont Fawr Llanrwst.
Wrth sôn am yr addewid Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:
“Mae fy ngwaith yn y gorffennol gyda Chyngor Conwy ar geisio mynd i'r afael â'r anhrefn sydd wedi datblygu ar Bont Fawr Llanrwst wedi arwain at yr Awdurdod Lleol yn datblygu cynigion ar gyfer arwyddion a marciau ffordd newydd. Fodd bynnag, mae'n bryd ystyried dichonoldeb cyflwyno ateb a reolir gan signalau ar yr A470.
“Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach yn barod i ystyried unrhyw welliannau posib i'r gefnffordd er mwyn hwyluso ateb i'r bont hanesyddol.
“Er y byddaf yn cysylltu â'r Awdurdod Lleol mewn ymdrech i weld cynigion amgen yn cael eu datblygu ar gyfer Pont Fawr, byddaf hefyd yn cadw llygad barcud ar yr addewid a wnaed yn ysgrifenedig yn awr i adolygu'r A470 rhwng Glan Conwy a Betws-y-coed.
“Ar ôl codi pryderon am bethau fel y gyffordd â Phont Fawr; y gyffordd yn Nhal-y-cafn; allt Bodnant; a'r darn wrth Rhydycreuau, rwy'n glir bod angen gweithredu ar sawl pwynt.”
DIWEDD
Nodyn:
- Cwestiwn Ysgrifenedig gan Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog gynnal astudiaeth ddichonoldeb i gael ateb amgen a reolir gan signalau ar yr A470 ar gyfer Pont Fawr yn Llanrwst? (WQ82806)
- Ymateb gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: In the next financial year 2022/23, we will be undertaking a WelTAG stage 1 appraisal of the route from Glan Conwy to Betws y Coed. This will consider all issues along that corridor aligning with the priorities of the Wales Transport Strategy. In the meantime, I would be happy for my officials to discuss any proposals Conwy County Borough Council may have for the bridge and consider any improvements that could be made to the trunk road to facilitate these proposals.