Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llywodraeth Cymru yn Tanseilio Parth Llety Gwyliau Llandudno

  • Tweet
Tuesday, 24 August, 2021
  • Local News

Yn dilyn defnyddio llety gwyliau i ddarparu llety brys/dros dro, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi sôn am yr angen dybryd i Lywodraeth Cymru ystyried dirymu neu o leiaf gyfyngu ar y ddeddfwriaeth sy’n tanseilio Parth Llety Gwyliau Llandudno.

Mae Polisi TOU/3 – Parthau Llety Gwyliau, Cynllun Datblygu Lleol Conwy 2007-2022, yn datgan: ‘Mae Parthau Llety Gwyliau wedi’u dynodi yn Llandudno ac fe’u dangosir ar y map cynigion. Er mwyn diogelu lefel briodol o lety â gwasanaeth ar gyfer twristiaeth, ni chaniateir cynigion ar gyfer ailddatblygu neu addasu llety â gwasanaeth presennol ar gyfer defnyddiau eraill o fewn y parthau’.

Er gwaethaf polisi cynllunio sy’n datgan yn glir na chaniateir ailddatblygu neu addasu llety gwyliau, mae Llywodraeth Cymru wedi creu bwlch: eu newid dros dro i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“y Gorchymyn”) sy’n galluogi awdurdodau lleol i ymgymryd â datblygiad yn ystod y pandemig.

Daeth Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020 (Gorchymyn 2020) i rym ym mis Mawrth 2020, a mewnosododd Ran 12A newydd (Datblygu Brys gan Awdurdodau Lleol) yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn, gan ganiatáu i awdurdodau lleol ymgymryd ag unrhyw fath o ddatblygiad (fel y’i diffinnir gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990), ar dir sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, yn cael ei brydlesu, ei feddiannu neu ei gynnal ganddo at ddibenion: a) atal argyfwng; b) lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng; neu c) cymryd camau eraill mewn cysylltiad ag argyfwng.

Wrth sôn am effaith newid deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet:

“Er fy mod yn gwerthfawrogi’r amgylchiadau eithriadol a arweiniodd at y newid deddfwriaethol sy’n galluogi gwestai i newid defnydd i lety dros dro heb wneud cais am ganiatâd, a bod galw sylweddol am dai brys, mae’n anghywir bod llety gwyliau yng nghanol y sector yn cael ei golli er gwaethaf yr amddiffyniad clir a gynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol.

“Mae’r sector twristiaeth yn ffynnu yn Llandudno. Mae’r galw’n brawf bod ein polisi cynllunio lleol yn iawn i ddiogelu’r parth llety gwyliau, a bod Llywodraeth Cymru bellach yn anghywir i barhau i ganiatáu i’w deddfwriaeth ei danseilio.

“Mae’r amgylchiadau wedi newid. Nawr, dylai’r gyfraith newid.

“Yr hyn mae Gorchymyn 2020 hefyd yn amlwg yn ei gyflawni yw annhegwch posibl i drigolion llety dros dro, gan nad yw byw mewn ardaloedd twristiaeth prysur o reidrwydd yn ffafriol i’r lleoliad hamddenol a chefnogol y gallai fod ei angen ar rai unigolion.

“Mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswyddau cyfreithiol i’w bodloni gan gynnwys darparu llety dros dro lle bo hynny’n briodol, ac nid oes yr un ohonom yn dymuno gweld unrhyw un yn ddigartref, ond ni ddylid parhau i ateb y galw drwy ddefnyddio deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n galluogi tanseilio’r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig ar gyfer yr ardal”.

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

Dogfennau:

  • Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd
  • Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree