Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llythyr yn galw am ailddechrau digwyddiadau chwaraeon awyr agored sy'n ddiogel o ran Covid

  • Tweet
Wednesday, 2 June, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bwyso am adolygiad o'r canllawiau ar ddigwyddiadau rhedeg awyr agored, fel y gellir cael cydraddoldeb o ran y cyfarwyddyd a roddwyd i gwmnïau yn Lloegr. Mae'r etholaeth yn gartref i Hanner Marathon enwog Eryri, Hanner Marathon Conwy a Hanner Marathon Gogledd Cymru. Daw ei llythyr yn dilyn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Prif Weinidog, a oedd yn gofyn am eglurder ynghylch y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gefnogi dychwelyd twrnameintiau pêl-droed ieuenctid yn ddiogel. Gyda'i gilydd, mae Janet yn gobeithio y bydd ailddechrau digwyddiadau o'r fath yn helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa o iechyd meddwl gwael drwy 'sianelu egni'n gynhyrchiol' tuag at lwyddiant yn y maes chwaraeon.

Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet:

“Rydw i'n falch fy mod wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i gofrestru fy mhryder yn ffurfiol am effaith cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar y sector digwyddiadau chwaraeon awyr agored. O gerdded cyflym i redeg marathon, mae'r calendr digwyddiadau hwn yn hanfodol i arlwy'r Gogledd ar gyfer twristiaid.

“Ond yn fwy cyffredinol, mae atal digwyddiadau chwaraeon awyr agored sy'n ddiogel o ran Covid wedi bod yn un o'r heriau mwyaf parhaus i'n hymdeimlad o les cyfunol. I lawer, mae'r rasys hyn yn rhoi targed y gellir sianelu eu hegni'n gynhyrchiol tuag ato. Mae atal digwyddiadau o'r fath rhag cael eu trefnu yn parhau i fod yn ddraenen yn ystlys ein hymdrechion i fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael.

“Wrth gwrs, yn dilyn fy nghwestiynau yn Siambr y Senedd yr wythnos ddiwethaf, rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru'r canllawiau i gwmnïau lletygarwch o ran adloniant dan do. Roedd y cam hwn yn dangos bod adolygiadau brys o'r canllawiau bellach yn gyraeddadwy.

“Roedd y newid i'r canllawiau adloniant yn cydnabod gwerth gwaith o'r fath i gyrchfannau glan môr a chyrchfannau gwledig Aberconwy, yn ogystal ag effaith cyfyngiadau parhaus ar ein diddanwyr. Rydw i'n gobeithio'n fawr y bydd yr ymdeimlad hwnnw'n ennill y dydd mewn perthynas â'n digwyddiadau chwaraeon awyr agored.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Ar hyn o bryd, gall gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu yng Nghymru gael hyd at 50 o bobl o unrhyw oedran. Yn Lloegr, gellir cynnal gweithgareddau chwaraeon awyr agored wedi'u trefnu mewn unrhyw niferoedd, yn amodol ar ganllawiau sy'n benodol i’r chwaraeon.
  • Amgaeaf gopi o lythyr Janet at y Dirprwy Weinidog.

Ffotograff: gan sporlab ar Unsplash

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree