Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llwyddiant Ymgyrch: AS Aberconwy yn croesawu rôl estynedig Ysbyty Llandudno

  • Tweet
Wednesday, 8 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei llawenydd bod Ysbyty Llandudno wedi mabwysiadu menter y gaeaf er mwyn helpu i ysgafnhau’r pwysau ar welyau mewn safleoedd eraill.

Daw’r datblygiad positif hwn yn dilyn cadwyn o gamau gan yr Aelod dros Aberconwy sydd wedi bod yn gweithio i weld gwasanaethau yn cael eu cynnal a’u hadfer yn Ysbyty Llandudno. Mae ei chamau yn cynnwys:

  • Arwain galwadau i ailagor yr Uned Gofal Dydd ar ôl iddi ddarganfod nad oes unrhyw gleifion wedi bod yno yn 2021;
  • Ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, yn gofyn am i’r Pwyllgor ystyried y posibilrwydd y gallai’r problemau difrifol a achosir gan oedi cyn gadael ysbyty yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth yn y Gogledd gael eu lliniaru rhywfaint o leiaf drwy weithredu polisi lle mae’r cleifion hynny sy’n ffit yn feddygol i fedru gadael yn cael eu trosglwyddo i ysbytai fel un Llandudno;
  • Gofyn am gyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno;
  • Ysgrifennu erthygl yn North Wales Weekly News yr wythnos hon yn tynnu sylw at sut y gellid defnyddio ein hysbytai llai yn well.

Gan roi ei sylwadau ar gyhoeddiad y Bwrdd Iechyd, dywedodd Janet:

“Rwyf wrth fy modd bod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd, a bod y Bwrdd Iechyd o’r diwedd wedi gwrando ar fy ngalwadau i wrthdroi’r duedd i ganoli gwasanaethau yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth drwy greu ward bontio yma yn Llandudno.

“Fel y dywedais yn glir wrth y Senedd yr wythnos hon, gall ein hysbytai llai chwarae rôl bwysicach nag erioed yn ein gwasanaeth iechyd, a dylent allu gwneud hynny.

“Gydag Uned Mân Anafiadau Llandudno eisoes yn perfformio’n wych, mae’n amlwg bod gan yr ysbyty botensial gwych.

“Wrth symud ymlaen, rwy’n erfyn ar y Bwrdd Iechyd i adolygu a ellir creu wardiau pontio yn Abergele, Bae Colwyn, Dinbych, y Royal Alexandra, Rhuthun, Glannau Dyfrdwy, y Waun, Treffynnon, yr Wyddgrug, Pwllheli, Dolgellau, Stanley, Alltwen, Llangefni, Caernarfon a Thywyn ac i oriau agor yr Uned Fân Anafiadau yn Llandudno gael eu newid ar unwaith fel bod yr Uned ar agor 24/7.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Ysbyty Llandudno yn mabwysiadu menter y gaeaf i helpu i ysgafnhau'r pwysau ar safleoedd eraill

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree