Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llwyddiant i Barc Cenedlaethol Eryri

  • Tweet
Thursday, 21 November, 2019
  • Local News

Wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wynebu her ariannol a fyddai wedi newid y Parc Cenedlaethol yn sylweddol, mae £1,858,540 miliwn yn ychwanegol wedi’i sicrhau ar gyfer Eryri. Mae hyn yn dilyn ymgyrch gref gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, i helpu i wrthdroi’r bygythiad o ostyngiad gwerth hanner miliwn mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.  

 

Gan gyfeirio at yr addewid am ragor o arian, dywedodd Janet:

 

“Am dros bedwar mis, rydw i wedi bod yn pledio ar Lywodraeth Cymru am yr angen brys i ddiogelu dyfodol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn wir, fe wthiais y Prif Weinidog ym mis Medi i ddweud fod penderfyniadau cyllid yn dal i gael eu hystyried ac y byddai’n amhriodol iddo wneud sylwadau pellach.  

 

“Roedd Llywodraeth Cymru’n bwriadu gostwng cyllideb yr Awdurdod i lefel o arian a oedd yn is na’r lefel yn 2001.

 

“Byddai’r gostyngiad o hanner miliwn wedi arwain at ddirywiad i lwybrau Eryri, byddai wedi golygu cau’r tair canolfan groeso a’r toiledau cyhoeddus; diwedd ar y bws Sherpa; colli staff; a chwestiynau difrifol am gadernid ariannol yr Awdurdod.

 

“Fel Aelod sydd â’r anrhydedd o wasanaethu rhan sylweddol o’r Parc Cenedlaethol, credwn mai fy nyletswydd oedd gwarchod ei ddyfodol a buddiannau gorau fy etholwyr.

 

“Rwy’n croesawu’n frwd y cyhoeddiad y bydd £1,858,540 miliwn yn cael ei neilltuo i Eryri fel cyllid cyfalaf ychwanegol yn 2019-20.

 

“Yn bwysicach, mae effeithiolrwydd fy ymgyrch yn glir gan fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd rhywfaint o’r arian yn cael ei wario ar fynd i’r afael â chanlyniadau posibl y cyllid afresymol rydw i wedi tynnu sylw atyn nhw sawl gwaith, fel rhoi’r gorau i drwsio llwybrau, cau atyniadau i dwristiaid, a methu â diwallu eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer y Parciau Cenedlaethol.“

 

“Mae’n warthus bod y sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle’r oeddwn i wedi gorfod brwydro i warchod Eryri rhag bygythiad ariannol difrifol yn sgil cynlluniau gwariant Llywodraeth Lafur Cymru ”.

 

DIWEDD

 

Dogfennau:

 

Llythyr at y Prif Weinidog 22 Gorffennaf 2019

 

Llythyr gan y Prif Weinidog 13 Awst 2019

 

Llythyr at y Prif Weinidog 21 Awst 2019

 

Llythyr gan y Prif Weinidog 12 Medi 2019

 

Nodiadau:

 

Gwerthfawr a Chydnerth: Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Er enghraifft, mae’r rhain yn cynnwys: ‘Annog, cefnogi a rheoli cyfleoedd cyfrifol i hamddena yn yr awyr agored yw un o rolau pwysig AHNE ac un o brif rolau Awdurdodau'r Parciau. Rhaid i ymdrechion ganolbwyntio ar weithio i ddarparu lleoedd a chyfleusterau sy'n addas i'r diben ac sy'n gyson â safon y tirweddau trawiadol y maen nhw'n eu gwasanaethu.’

 

Datganiad Busnes ar 9 Gorffennaf 2019

 

Hwb o £4 miliwn o gyllid i Barciau Cenedlaethol Cymru ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

 

AC yn Brwydro dros Ddyfodol Parc Cenedaethol Eryri  <https://www.janetfinchsaunders.org.uk/news/am-fighting-future-snowdonia…;

 

Attachments

Attachment Size
Llythyr at y Prif Weinidog 22 Gorffennaf 2019 (883.9 KB) 883.9 KB
Llythyr gan y Prif Weinidog 13 Awst 2019 (165.43 KB) 165.43 KB
Llythyr at y Prif Weinidog 21 Awst 2019 (623.55 KB) 623.55 KB
Llythyr gan y Prif Weinidog 12 Medi 2019 (41.8 KB) 41.8 KB

You may also be interested in

Janet Finch-Saunders in the Senedd: Key Speeches & Moments 2026

Friday, 27 March, 2026
A look back at the standout speeches, key debates and defining moments from the Senedd this year.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree