Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llwncdestun wrth Wobrwyo Llwyddiant Gwinllan yng Ngwobrau Gwin y Byd

  • Tweet
Thursday, 12 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yn y winllan y prynhawn yma, cyflwynodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – dystysgrif Medal Efydd i Colin a Charlotte Bennett o Winllan Conwy, ynghyd â’u merched, yn dilyn y newyddion bod eu gwin Cymreig Solaris 2019 wedi cael sgôr anhygoel o 89 pwynt yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter 2021. 

Mynychwyd y digwyddiad gan Uchel Siryf Clwyd, J. S. Thomas Ysw. hefyd, y ffermwr a’r wyneb amlwg ar deledu, Gareth Wyn Jones, Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar AS, a chynrychiolwyr busnesau lleol eraill. Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn medalau diweddar yn yr Her Win Ryngwladol i’w gwinoedd Pefriog a Solaris, yn ogystal ag ennill Dosbarth Bwyd a Diod Lleol Cymru yng ngwobrau mawreddog y Gynghrair Cefn Gwlad. Cafodd y winllan ei henwebu ar gyfer y wobr ddiweddaraf hon gan Janet, a dynnodd sylw at eu “cyfraniad economaidd enfawr i’r ardal leol.” 

Wrth ddathlu eu llwyddiant, dywedodd Janet: 

“Mae wedi bod yn wefr bod yn dyst i lwyddiant ysgubol Gwinllan Conwy dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o wybod am waith caled ac ymroddiad Colin a Charlotte i ddatblygu eu brand ac ehangu eu cynnyrch. Mae pob buddugoliaeth sy’n dod i’w rhan yn adlewyrchu’r gwaith caled hwnnw. 

“Ar ôl tyfu o hedyn o syniad i filoedd o winwydd ar ochr y bryn wrth ymyl eu cartref, mae’n wych eu gweld yn gwerthu nifer cynyddol o boteli o win o safon i fusnesau lleol erbyn hyn, gan gefnogi’r economi ranbarthol a chyflwyno stori gwin Cymru i’r byd. 

“Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniais y cais i gyflwyno’r Fedal Efydd i’r teulu yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter 2021, a dim ond trwch blewyn, un pwynt, oedd rhyngddynt â’r Fedal Arian. Mae cydnabyddiaeth ar raddfa fyd-eang i’w busnes teuluol yn tanlinellu rhinweddau unigryw’r gwinoedd maen nhw’n eu cynhyrchu. 

“Yn yr un modd, mae eu llwyddiant yng Ngwobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad yn gydnabyddiaeth wych sy’n tanlinellu eu cyfraniad economaidd aruthrol i’n hardal leol. Rwy’n annog trigolion i godi gwydraid o’u cynnyrch arobryn i gynnig llwncdestun i’w llwyddiant parhaus!” 

DIWEDD

Llun #1: Janet gyda Colin a Charlotte Bennett yn y seremoni wobrwyo, gyda merched y cwpl ac Uchel Siryf Clwyd

Llun #2: Janet a Robin Millar AS yn ymweld â’r winllan 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree