
A burst water main in Flintshire has left thousands of residents without water until late Friday evening. The main burst on Thursday was a result of failed temporary repairs carried out last weekend. While compensation and bottled water are being provided to residents and businesses by Dŵr Cymru, the situation is concerning as we head into a hot weekend.
This is the second major burst this year, following an incident in January where a burst pipe affecting Llandudno, Conwy Valley, and Colwyn Bay, left residents without water for days. Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy and Shadow Minister for Climate Change and Environment, has called for urgent action to prevent further incidents. She has also advocated for the creation of a shared emergency contact list for all vulnerable individuals, to ensure they have access to vital supplies.
Commenting on the burst water main, Janet said:
“Instances like this are always extremely worrying for residents, and for communities further afield. However, this is the second major burst main in North Wales this year.
“While the actions taken by Dŵr Cymru, offering compensation to businesses, and providing water and guidance for mothers relying on bottled water to feed their babies, have improved since the January incident, it still raises major concerns about the length of time people are being left without water.
“It is during emergency events like this that a shared emergency contact list, maintained by all emergency services and local representatives, is essential. Such a list would ensure that our most vulnerable community members receive the guidance, support, and reassurance they need, along with access to vital supplies like water, which they may not be able to collect themselves.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae miloedd o drigolion Sir y Fflint wedi cael eu gadael heb ddŵr tan yn hwyr nos Wener ar ôl i brif bibell cyflenwad dŵr fyrstio. Digwyddodd y prif fyrst ddydd Iau o ganlyniad i fethiant atgyweiriadau dros dro a wnaed y penwythnos diwethaf. Er bod iawndal a dŵr potel yn cael eu darparu i drigolion a busnesau gan Dŵr Cymru, mae'r sefyllfa'n bryderus wrth iddi addo penwythnos poeth.
Dyma'r ail fyrst mawr eleni, yn dilyn digwyddiad ym mis Ionawr lle byrstiodd pibell gan effeithio ar Landudno, Dyffryn Conwy, a Bae Colwyn, a gadael trigolion heb ddŵr am ddyddiau. Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, wedi galw am weithredu ar frys i atal digwyddiadau pellach. Mae hi hefyd wedi siarad o blaid creu rhestr o gysylltiadau mewn argyfwng ar gyfer pob unigolyn agored i niwed, er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at gyflenwadau hanfodol.
Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:
"Mae achosion fel hyn bob amser yn hynod bryderus i drigolion, ac i gymunedau ymhellach i ffwrdd. Fodd bynnag, dyma'r ail achos mawr o’i debyg yn y Gogledd eleni.
"Er bod y camau a gymerwyd gan Dŵr Cymru - cynnig iawndal i fusnesau, a darparu dŵr a chanllawiau i famau sy'n dibynnu ar ddŵr potel i fwydo eu babanod - wedi gwella ers y digwyddiad ym mis Ionawr, mae'n dal i godi pryderon mawr am yr amser y mae pobl yn cael eu gadael heb ddŵr.
"Yn ystod digwyddiadau brys fel hyn mae cael un rhestr o gysylltiadau mewn argyfwng, a gynhelir gan yr holl wasanaethau brys a chynrychiolwyr lleol, yn hanfodol. Byddai rhestr o'r fath yn sicrhau bod yr aelodau mwyaf agored i niwed o’n cymuned yn derbyn yr arweiniad, y gefnogaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen arnynt, ynghyd â mynediad at gyflenwadau hanfodol fel dŵr, na fyddant efallai yn gallu eu casglu eu hunain."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS