In Wales, 38,374 patients have died while waiting for NHS treatment since May 2021, with a Freedom of Information request revealing that 8,503 of those patients were under the Betsi Cadwaladr University Health Board. However, the Health Board has emphasised that many will have died for reasons unrelated to their treatment waiting time.
Despite hearing these shocking figures and real-life experiences, Labour, Plaid Cymru, and the Liberal Democrats failed to support the Welsh Conservatives' plans to reduce waiting times and fix our NHS.
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, raised the serious challenges facing our Welsh NHS and called for immediate action to fix our vital health service.
Commenting on the Welsh Conservative NHS debate, Janet said:
“On a frequent basis, I have constituents contacting and visiting my office because they are facing long waits for overdue treatment, many of which are for life-threatening conditions. This is unacceptable and adds to the serious stress and concern these constituents are already facing.
“We are now in a position where residents are using life savings to pay for treatment. The situation is unacceptable.
“The Welsh Conservatives have a clear plan to fix our NHS and reduce waiting lists. It is appalling that the Welsh Labour Government, Plaid Cymru, and the Liberal Democrats did not support our motion in yesterday’s debate.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Yng Nghymru, mae 38,374 o gleifion wedi marw wrth aros am driniaeth gan y GIG ers mis Mai 2021, gyda chais Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu bod 8,503 o'r cleifion hynny ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fodd bynnag, mae'r Bwrdd Iechyd wedi pwysleisio y bydd llawer wedi marw am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â'u hamser aros am driniaeth.
Er gwaetha'r ffigurau syfrdanol hyn a chlywed profiadau bywyd go iawn, methodd Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol â chefnogi cynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig i leihau amseroedd aros a thrwsio ein GIG.
Tynnodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, sylw at yr heriau difrifol sy'n wynebu ein GIG yng Nghymru a galwodd am weithredu ar unwaith i drwsio ein gwasanaeth iechyd hollbwysig.
Wrth ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y GIG, dywedodd Janet:
“Mae etholwyr yn cysylltu â mi'n aml ac yn dod heibio'r swyddfa gan eu bod yn wynebu rhestr aros hir am driniaeth, llawer ohonynt ar gyfer cyflyrau sy'n peryglu bywyd. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn ychwanegu at y straen a'r pryder difrifol sydd eisoes yn wynebu'r etholwyr hyn.
“Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae pobl yn defnyddio cynilion oes i dalu am driniaeth. Mae'r sefyllfa yn annerbyniol.
“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun clir i drwsio ein GIG a lleihau rhestrau aros. Mae'n warthus na wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi ein cynnig yn y ddadl ddoe.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS