On the second anniversary of the introduction of Labour and Plaid Cymru’s disastrous 20mph speed limit, Local Member for Aberconwy, Janet Finch-Saunders MS, has criticised the Welsh Government’s 20mph speed limit policy, saying it has cost millions, risks billions in economic damage, and ignores overwhelming public opposition.
Commenting, Janet Finch-Saunders, Senedd Member for Aberconwy, said:
“The Labour Welsh Government ignored the people of Aberconwy and Wales when they forced through their disastrous 20mph speed limit and dismissed a record-breaking Senedd petition calling to scrap it.
“The rollout has already cost taxpayers £32 million, with an estimated economic hit of up to £9 billion. Labour and Plaid’s blanket 20mph speed limit has been nothing short of a disaster for Wales.
“Lower speed limits make sense outside schools, hospitals and in dangerous areas, but Labour and Plaid’s one-size-fits-all approach doesn’t work. The Welsh Conservatives are the only party in the Senedd committed to scrapping Labour’s 20mph speed limit.”
ENDS
Ar ail ben-blwydd cyflwyno terfyn cyflymder trychinebus Llafur a Phlaid Cymru o 20mya, mae'r Aelod Lleol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders AS, wedi beirniadu polisi terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru, gan ddweud ei fod wedi costio miliynau, ei fod yn peryglu difrod economaidd gwerth biliynau, a’i fod yn anwybyddu gwrthwynebiad llethol y cyhoedd.
Meddai Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy:
"Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru anwybyddu pobl Aberconwy a Chymru drwy fynd ati i orfodi eu terfyn cyflymder trychinebus o 20mya a gwrthod deiseb y Senedd yn galw am ei ddileu.
"Mae ei gyflwyno eisoes wedi costio £32 miliwn i drethdalwyr, gydag amcangyfrif y bydd clec economaidd o hyd at £9 biliwn. Mae terfyn cyflymder 20mya Llafur a Plaid wedi bod yn drychineb i Gymru.
"Mae terfynau cyflymder is yn gwneud synnwyr y tu allan i ysgolion, ysbytai ac mewn ardaloedd peryglus, ond dydy dull un maint i bawb Llafur a Plaid ddim yn gweithio. Y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid yn y Senedd sydd wedi ymrwymo i ddileu’r terfyn cyflymder o 20mya Llafur."
DIWEDD