Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Janet Finch-Saunders AS yn sicrhau ymrwymiad i ddeddfwriaeth Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru yn yr hydref

  • Tweet
Tuesday, 22 June, 2021
  • Local News

Mae ymgyrch Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid ac Aelod o’r Senedd Aberconwy - i fynd i’r afael â gwastraff plastig wedi cymryd cam pwysig iawn heddiw ar ôl iddi dderbyn ymrwymiad gan y Prif Weinidog y bydd cynigion ar gyfer cynllun dychwelyd ernes Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yn ystod yr Hydref.

Daeth yr ymyriad wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lansio ei dreial cynllun dychwelyd ernes digidol mewn partneriaeth â’r elusen adnoddau WRAP, Llywodraeth Cymru a Polytag. Fel rhan o’r peilot pedair wythnos, a lansiwyd ddydd Iau, bydd recriwtwyr yn cysylltu â phreswylwyr i ofyn iddynt gofrestru ar gyfer y cynllun. Cyflwynodd Janet gynnig deddfwriaethol ar y mater ym mis Tachwedd 2020 a dderbyniodd gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd.

Gan roi sylwadau ar ei Chwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:

“Fis Tachwedd y llynedd, roeddwn i’n falch iawn o gyflwyno cynnig deddfwriaethol am Fil a fyddai’n cyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru. Yn bwysicach na dim, cefnogwyd fy nghynnig gan fwyafrif o 34 Aelod.

“A minnau’n awyddus i gadw pethau i symud, roedd hi’n siomedig iawn gweld cyhoeddiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru am nad oedd i’w weld yn ymrwymo’n bendant i  gyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Mae yna gefnogaeth ymysg y cyhoedd ac yn drawsbleidiol i gyflwyno cynllun o’r fath, felly mae hwn heb os yn gyfle wedi’i golli.

“Dyna pam ei bod mor bwysig sicrhau’r ymrwymiad hwn gan y Prif Weinidog heddiw. Rwyf wedi dweud ers talwm y dylai Cymru fod yn arweinydd byd o ran amddiffyniadau amgylcheddol ac ymdrechion i fynd i’r afael â gwastraff. Byddai cynllun Cymru gyfan - a fyddai’n gyson â systemau eraill ledled y DU - yn gam pwysig iawn tuag at gyflawni hyn.

“Yn fy sgyrsiau gyda chynhyrchwyr diodydd, mae wedi dod i’r amlwg bod y sector yn parhau’n gefnogol iawn i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes wedi’i gynllunio’n dda cyn gynted â phosibl. Byddaf nawr yn ceisio sicrhau ein bod yn cadw at yr amserlen hon er mwyn sicrhau bod y polisi yn gwireddu’r uchelgais clodwiw hwn.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • O dan gynllun Conwy, bydd preswylwyr yn cael set o boteli dŵr plastig gyda ‘Chodau unigryw polytag” arnyn nhw. Ar ôl eu defnyddio, byddant yn cael eu sganio gydag ap am ddim, ac yn cael eu rhoi allan i’w hailgylchu fel arfer.
  • Bydd y poteli’n cael eu sganio gan dîm ailgylchu’r Cyngor, ac am bob potel sy’n cael ei sganio, bydd preswylwyr yn derbyn taleb ddigidol gwerth 20c a fydd yn mynd tuag at godi arian i Ysgol Pen y Bryn.

Ffoto: gan Nick Fewings ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree