Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has undertaken a visit to Rowen where a couple have received an award for participating in the National Garden Scheme for 30 years.
Since 1927 the National Garden Scheme has provided the public access to some of the most beautiful private gardens across the United Kingdom.
Commenting after the visit Janet said:
“I would like to take this opportunity to thank Professor. & Dr. Greenhalgh for their incredible hospitality and for providing me with the unique experience to visit their outstanding garden. It is truly commendable that for 30 years they have allowed for pre-arranged public access to their garden so that local residents and visitors alike can enjoy this incredible space.
“The COVID-19 pandemic highlighted to us all the importance of enjoying outdoor space and in reconnecting with nature in our gardens. Given this, I would like to thank these two incredible residents for opening up their most private of spaces for the good of their fellow residents.
“I am confident that many across Aberconwy will keenly await for the next planned opening of this stunning garden, especially as it is home to a unique summer house which use to be used in Conwy Marina to treat individuals with TB, as a eucalyptus with a fascinating story, and one of the best views in the whole of Aberconwy. I would encourage others across our community to consider joining the National Garden Scheme to share the great sense of joy that can be found in a garden.”
ENDS/
Photo: Private Garden of Mr. & Mrs. Greenhalgh.
Janet Finch-Saunders AS yn ymweld â gardd yn Rowen sydd wedi derbyn gwobr 30 mlynedd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ymweld â Rowen lle mae cwpwl wedi derbyn gwobr am gymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol ers 30 mlynedd.
Ers 1927, mae’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol wedi rhoi mynediad i’r cyhoedd at rai o’r gerddi preifat hyfrytaf ledled y Deyrnas Unedig.
Yn rhoi sylwadau ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro a Dr Greenhalgh am eu lletygarwch anhygoel ac am roi’r profiad unigryw hwn i mi o ymweld â’u gardd hyfryd. Mae’n glod mawr eu bod wedi rhoi mynediad i’r cyhoedd at eu gardd ers 30 mlynedd fel bod trigolion lleol ac ymwelwyr yn gallu mwynhau’r lle anhygoel hwn.
“Pwysleisiodd y pandemig COVID-19 pa mor bwysig yw mwynhau bod yn yr awyr agored ac ailgysylltu â natur yn ein gerddi. O ystyried hyn, hoffwn ddiolch i’r ddau breswylydd hyn am agor eu gofod mwyaf preifat er budd eu cyd-breswylwyr.
“Rwy’n hyderus y bydd llawer o bobl ledled Aberconwy yn aros yn frwd am agoriad nesaf yr ardd hyfryd hon, yn enwedig gan ei bod yn gartref i dŷ haf prydferth a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio ym Marina Conwy i drin unigolion gyda TB, mae ganddi goeden ewcalyptws sydd â hanes diddorol, ac un o’r golygfeydd gorau yn Aberconwy i gyd. Byddwn yn annog eraill ledled ein cymuned i ystyried ymuno â’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol i rannu’r pleser sydd i gael mewn gardd.”
DIWEDD/
Ffoto: Gardd Breifat Mr a Mrs Greenhalgh.