Following the 7 May Senedd election, Janet Finch-Saunders MS, along with Rhun ap Iorwerth MS, Helen Jenner MS, Mair Rowlands MS, Elfed Williams MS, and John Clark MS, were elected to represent the residents of Bangor, Conwy and Môn.
Upon being re-elected, Janet commented:
“First of all, I would like to thank all of the residents of Bangor, Conwy and Môn for putting your trust in me to serve you as your Member of the Senedd over the next four years. I will ensure that your voices are firmly heard in the Senedd and will take immediate action to address any concerns or challenges that you face.
“I will also be holding the Welsh Plaid Government, and my fellow elected Members for the area, to account to ensure that they deliver for the needs of our local residents.
“This has been the tenth election that I have fought and won. Over the last thirty-one years, I have always taken responsibility and held elected officials to account.
“Under the last Labour Welsh Government, which was supported by Plaid Cymru, we saw corridor care, a lack of hospital beds, long treatment waiting lists, and poor PISA results. This cannot be allowed to continue.
“I will ensure that these issues are raised in the Senedd and with the relevant Minister, and I will continue until action is taken.
“Thank you again for putting your trust in me. I will not let you down.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Yn dilyn etholiad y Senedd ar 7 Mai, etholwyd Janet Finch-Saunders AS, ynghyd â Rhun ap Iorwerth AS, Helen Jenner AS, Mair Rowlands AS, Elfed Williams AS, a John Clark AS, i gynrychioli trigolion Bangor, Conwy a Môn.
Ar ôl cael ei hail-ethol, dywedodd Janet:
“Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i holl drigolion Bangor, Conwy a Môn am roi eich ymddiriedaeth ynof i i’ch gwasanaethu fel eich Aelod o'r Senedd dros y pedair blynedd nesaf. Gallaf eich sicrhau y bydd eich lleisiau yn cael eu clywed yn gadarn yn y Senedd a byddaf yn cymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu heriau sy'n eich wynebu.
"Byddaf hefyd yn dwyn Llywodraeth Plaid Cymru, a'm cyd-Aelodau etholedig dros yr ardal, i gyfrif i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ein trigolion lleol.
"Dyma'r degfed etholiad rydw i wedi ei ymladd a’i ennill. Dros yr un mlynedd ar hugain diwethaf, rydw i bob amser wedi cymryd cyfrifoldeb ac wedi dwyn swyddogion etholedig i gyfrif.
"O dan y Llywodraeth Llafur Cymru ddiwethaf, a gefnogwyd gan Blaid Cymru, gwelsom ofal mewn coridor, diffyg gwelyau ysbyty, rhestrau aros hir am driniaeth, a chanlyniadau PISA gwael. Ni ellir caniatáu i hyn barhau.
"Byddaf yn sicrhau bod y materion hyn yn cael eu codi yn y Senedd a gyda'r Gweinidog perthnasol, a byddaf yn dal ati nes bod camau yn cael eu cymryd.
"Diolch eto am ymddiried ynof fi. Wna i mo’ch siomi chi."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS