Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Intervention calls for a review of the impact of society on porpoises

  • Tweet
Thursday, 25 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth barhau â'i gweithgareddau i nodi Wythnos Hinsawdd Cymru 2021, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy a Hyrwyddwr Rhywogaeth y Llamhidydd Cyswllt Amgylchedd Cymru – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r gwaith mapio a chasglu data sydd angen ei wneud i werthuso effaith ein cymdeithas ar y rhywogaeth. 

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig, gofynnodd Mrs Finch-Saunders: 

“A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i adolygu pa waith mapio arall sydd angen ei wneud i werthuso effaith gweithgareddau pobl ar y llamhidydd?” 

Gellir gweld y llamhidydd yn agos at y lan mewn dŵr bas. Mae'n famal gwaed cynnes, ac oherwydd ei fod yn fach o ran maint, mae'n rhaid iddo fwydo'n aml er mwyn cynnal tymheredd ei gorff ym moroedd oer Prydain. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, mae’r llamhidydd yn bwyta pysgod, gan gynnwys penwaig a gwyniaid môr.  

Gan danlinellu'r angen am gynllun i gefnogi'r rhywogaeth, dywedodd Janet: 

“Wrth i mi barhau â'm gwaith fel hyrwyddwr y llamhidydd yn Senedd Cymru, rwy'n awyddus i weld cynllun gweithredu rhagweithiol yn cael ei gyflwyno i leihau neu ddileu'r bygythiadau i'r creaduriaid annwyl hyn yn sgil llygredd môr, cychod yn gwrthdaro, sŵn o dan y dŵr wedi'i achosi gan bobl, a llamhidyddion yn cael eu dal yn ddamweiniol mewn rhwydi pysgota. 

“Er fy mod yn cydnabod bod nifer o archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal gan y Rhaglen Ymchwil i Forfilod wedi Tirio, sy'n darparu rhywfaint o ddata i Lywodraeth Cymru, mae'r gwaith mapio Ardaloedd Adnoddau Strategol presennol yn gyfle perffaith i adolygu ymhellach effaith gweithgareddau pobl ar y llamhidydd. 

“Bydd cyfuniad o reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy, gorfodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn briodol, a chynllunio morol effeithiol yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a'r ffynonellau bwyd y mae’r llamhidydd yn dibynnu arnynt i oroesi yn cael eu diogelu ac yn cael cyfle i ffynnu.” 

Yn gynharach eleni, llofnododd Janet addewid MCS UK i ddiogelu moroedd Cymru, ac mae wedi cynnig Bil Cynllunio Morol (Cymru). Yn yr un modd, fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid yn yr Hinsawdd, mae Janet wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i reoli moroedd yn dda er mwyn rhoi hwb i'r 'economi las.’ 

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree