Residents, businesses and farmers in Penmachno are set to benefit from improved mobile phone connectivity following years of campaigning and close working with BT.
The rural community has long faced challenges with poor mobile coverage, impacting day-to-day life. Improved connectivity will now provide a significant boost for residents, particularly farmers, the elderly and those living and working in remote areas.
Janet Finch-Saunders MS, Senedd Member for Aberconwy, has campaigned on this issue for years, raising concerns directly with telecom providers and pressing the case for better rural connectivity. By working constructively with BT and campaigners, progress has now been delivered to the village.
Better mobile coverage will help farmers stay connected while working across large rural areas, improve access to emergency services, reduce isolation for elderly residents and support local businesses and families who rely on reliable communication.
Janet Finch-Saunders, Welsh Conservative Senedd Member for Aberconwy and Lead Senedd Candidate for Bangor, Conwy and Môn, said:
“I am delighted to see improved mobile connectivity finally delivered for Penmachno after years of campaigning on behalf of local residents. Reliable mobile coverage is not a luxury, it is essential for rural communities.
I have worked closely with Nick Speed and his team at BT over a long period to highlight the challenges faced here, and it is encouraging to see that work result in real improvements. This will make a genuine difference to everyday life, from supporting farmers and local businesses to helping older residents stay connected and safe.
Rural communities deserve the same standard of connectivity as anywhere else, and I will continue to push for improvements wherever they are needed.”
Mae trigolion, busnesau a ffermwyr ym Mhenmachno ar fin elwa ar signal ffonau symudol gwell ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu a gweithio’n agos gyda BT.
Mae'r gymuned wledig wedi wynebu heriau gyda signal ffonau symudol gwael, sy'n effeithio ar fywyd bob dydd. Bydd gwell cysylltedd nawr yn rhoi hwb sylweddol i drigolion, yn enwedig ffermwyr, yr henoed a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd anghysbell.
Mae Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ymgyrchu ar y mater hwn ers blynyddoedd, gan rannu pryderon yn uniongyrchol gyda darparwyr telathrebu a hyrwyddo'r achos dros well cysylltedd gwledig. Trwy weithio'n adeiladol gyda BT ac ymgyrchwyr, mae cynnydd bellach wedi'i gyflawni i'r pentref.
Bydd gwell darpariaeth ffonau symudol yn helpu ffermwyr i gadw mewn cysylltiad wrth weithio ar draws ardaloedd gwledig mawr, bydd yn gwella mynediad at wasanaethau brys, yn lleihau ynysu i drigolion oedrannus ac yn cefnogi busnesau a theuluoedd lleol sy'n dibynnu ar gyfathrebu dibynadwy.
Meddai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd y Ceidwadwyr Cymreig dros Aberconwy ac Ymgeisydd Arweiniol y Senedd ar gyfer Bangor, Conwy a Môn:
"Rwy'n falch iawn o weld cysylltedd ffonau symudol gwell yn cael ei gyflwyno o'r diwedd ar gyfer Penmachno ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu ar ran trigolion lleol. Dydy signal ffonau symudol dibynadwy ddim yn foethusrwydd, mae'n hanfodol i gymunedau gwledig.
Rydw i wedi gweithio'n agos gyda Nick Speed a'i dîm yn BT dros gyfnod hir i dynnu sylw at yr heriau sy'n ein hwynebu yma, ac mae'n galonogol gweld bod y gwaith yn arwain at welliannau gwirioneddol. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd bob dydd, o gefnogi ffermwyr a busnesau lleol i helpu trigolion hŷn i gadw mewn cysylltiad ac yn ddiogel.
Mae cymunedau gwledig yn haeddu cysylltedd o’r un safon ag unrhyw le arall, a byddaf yn parhau i wthio am welliannau lle bynnag y bo’u hangen."