Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Hyrwyddwr Llamidyddion yn annog bwrw ymlaen â chynlluniau rheoli cadwraeth

  • Tweet
Friday, 19 February, 2021
  • Local News

Heddiw (19 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Amgylchedd yr Wrthblaid - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei chynlluniau rheoli ar gyfer gwarchod llamidyddion yn nyfroedd Cymru.

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Gweinidog, gofynnodd Mrs Finch-Saunders:

“A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cynlluniau rheoli ac amcanion cadwraeth safleoedd ardaloedd cadwraeth arbennig llamhidyddion yng Nghymru?” 

Gellir gweld y llamidyddion yn agos at y lan mewn dŵr bas. Maen nhw’n famaliaid gwaed cynnes ac mae eu maint bach yn golygu eu bod yn gorfod bwydo’n gyson i gynnal tymheredd eu cyrff yn nyfroedd oer Prydain. Yn ôl yr Ymddiriedolaethau Natur, maen nhw’n bwydo ar bysgod, gan gynnwys penwaig a gwyniaid y môr.

Meddai Janet, sydd ar hyn o bryd yn Hyrwyddwr Rhywogaethau Cyswllt Amgylchedd Cymru ar gyfer y llamidyddion:

“Mae llamidyddion nid yn unig dan fygythiad oherwydd llygredd y môr, ond maen nhw hefyd wedi dioddef yn sgil cychod yn taro i mewn iddyn nhw, synau’n cael eu gwneud gan bobl dan y dŵr ac yn sgil cael eu dal ar ddamwain mewn rhwydi pysgota.

“Roeddwn i’n falch iawn o fod yn Hyrwyddwr Rhywogaeth y Llamidyddion. Er ei fod yn cael ei alw, yn annheg braidd, yn fochyn chwythu, mae wedi bod yn anhygoel dysgu am fywydau cyflym a gwyllt y creaduriaid cryf hyn, sy’n aml yn ymweld â glannau Aberconwy.

“Wrth i fenter Hyrwyddo Rhywogaethau Cyswllt Amgylchedd Cymru ddod i ben, rydw i wedi annog y Gweinidog i adolygu cynlluniau rheoli Llywodraeth Cymru ac amcanion cadwraeth safleoedd morol, mewn ymdrech i ddiogelu’r rhywogaeth hon ymhellach.

“Mae’n amlwg y bydd cyfuniad o reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy, gorfodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn iawn, a chynllunio morol effeithiol yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol a ffynonellau bwyd y mae llamidyddion yn dibynnu arnynt i oroesi yn cael eu diogelu ac yn cael cyfle i ffynnu.

“Rydw i wrth fy modd â bywyd morol, ac yn awyddus i annog preswylwyr i chwilio am eu binocwlars a cheisio gweld y llamidyddion yn lleol. Rhowch wybod i mi os ydych chi’n gweld un!”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae’r fenter Hyrwyddwyr Rhywogaethau yn cael ei chynnal gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Gwnaed Janet yn hyrwyddwr y llamhidydd ym mis Mehefin 2016.
  • Yn 2018, ar ôl i lawer o lamidyddion gael eu golchi i'r lan yn farw yn Nhrwyn y Fuwch ym Mae Penrhyn, gofynnodd Janet Finch-Saunders gwestiynau difrifol i Weinidog Cymru ar bysgota masnachol a sgil-ddalfeydd.

Ffoto: drwy garedigrwydd ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, credyd: Niki Clear.

You may also be interested in

Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Wednesday, 28 January, 2026
Questions to the Cabinet Secretary for Housing and Local Government

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree