Bydd trigolion y Gymru wledig yn gweld gwelliant aruthrol i’w signal ffôn symudol diolch i raglen cysylltedd digidol gwerth biliwn o bunnoedd - y gyntaf o'i math yn y byd. Wrth groesawu'r cyhoeddiad, mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi pwysleisio ei hymroddiad i gael eglurder ynghylch pryd y bydd problemau diffyg signal lleol yn cael eu datrys.
Cytunwyd ar y Shared Rural Network gyda chwmnïau rhwydwaith symudol mwyaf Prydain, lle bydd cwmnïau'n rhannu eu mastiau i roi hwb i signalau symudol pobl. Cymru fydd yn gweld y cynnydd uchaf nesaf – gyda signalau pob un o'r pedwar cwmni rhwydwaith ar draws ei hardaloedd daearyddol yn cynyddu mwy na thraean, o 60% i 80%. Dros y misoedd diwethaf, mae Janet wedi cysylltu â swyddogion British Telecom a Llywodraeth y DU, gan sicrhau eglurder y byddant yn ychwanegu dau safle 4G newydd i'r gorllewin o Ysbyty Ifan.
Wrth sôn am y rhwydwaith, dywedodd Janet:
“Bydd ymrwymiad darpariaeth symudol heddiw, i ddarparu signal symudol 4G dibynadwy i lawer o'n cymunedau gwledig, yn gwella bywydau cannoedd o drigolion ledled etholaeth Aberconwy, gan sicrhau'r cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i weithio a chadw mewn cysylltiad â'n hanwyliaid.
“Unwaith eto, mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu cryfder cydweithredu. Gyda Llywodraeth y DU a chwmnïau rhwydwaith symudol yn gweithio i gael gwared ar fannau heb signal, mae'n gam cadarnhaol y byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i'w efelychu trwy ei gwaith cysylltedd digidol ei hun.
“Fel y gŵyr llawer o drigolion, mae problem diffyg signal yn fater yr wyf wedi ymgyrchu yn ei gylch ers blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, roeddwn i'n falch o sicrhau eglurder y bydd dau safle 4G newydd yn cael eu hychwanegu i'r gorllewin o Ysbyty Ifan. Byddaf yn deisebu yn awr am eglurder ynghylch amserlenni ar gyfer gweithredu.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Bydd y Shared Rural Network (SRN), a gynigiwyd gan weinidogion fis Mawrth y llynedd, yn gweld EE, O2, Three a Vodafone yn rhannu rhwydwaith o fastiau ffôn newydd a phresennol. Bydd yn golygu cynnwys 280,000 o adeiladau ychwanegol a 16,000 km ychwanegol o ffyrdd y DU o fewn cyrraedd signal 4G – gan gynyddu cyfanswm y ddarpariaeth 4G ddaearyddol i 95% o'r DU erbyn diwedd 2025.
- Yn yr un modd, dan raglen Gwasanaethau Estynedig (EAS) y Swyddfa Gartref, mae pedwar safle yn etholaeth Aberconwy, gan gynnwys mastiau y credir y gallent wasanaethu Ysbyty Ifan a'r cylch.
- Mae map o'r gwelliannau 4G arfaethedig ynghlwm.
Llun: Map SRN gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU