
On Wednesday 17/09/2025 Janet Finch-Saunders MS had the honour of joining with Delyth Jewell MS, and Jack Sargeant MS, Minister for Culture, Skills and Social Partnership, to formally open the 'Not Lost in Translation' exhibition in the Senedd.
The display arranged by National Trust Cymru and sponsored by Mrs Finch-Saunders, enables attendees to step into the heart of Welsh heritage and explore Tŷ Mawr Wybrnant, a 16th-century farmhouse nestled in the Wybrnant valley near Penmachno, Conwy. This historic home is the birthplace of Bishop William Morgan, whose 1588 translation of the Bible into Welsh - ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ - ensured the survival of the Welsh language.
The exhibition explores the enduring legacy of Morgan’s work and the landscape that inspired it. The display includes ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ (1588) alongside a selection of donated Bibles—each carrying its own unique story of faith, language, and national pride.
Commenting after formally opening the exhibition, Janet said:
“It’s been a pleasure to support the National Trust with their fantastic vision to bring Y Beibl Cyssegr-lan to the Senedd, and an honour to formally open the display.
“This landmark religious text should rightly be celebrated at the legislative heart of Wales which it continues to influence to this day.
“Bishop William Morgan’s work included the standardisation of Welsh, and as such has had a massive influence.
“Many, over centuries, deserve praise for the survival of the language, including Bishop Morgan. I am confident that the activities now taking place will help improve awareness of his contribution and the importance of the 1588 Bible”.
ENDS
Ddydd Mercher 17/09/2025 cafodd Janet Finch-Saunders AS yr anrhydedd o ymuno â Delyth Jewell AS, a Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, i agor yr arddangosfa 'Gwerth mewn Gair' yn ffurfiol yn y Senedd.
Mae'r arddangosfa, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac a noddir gan Mrs Finch-Saunders, yn galluogi mynychwyr i gamu i galon treftadaeth Cymru ac archwilio Tŷ Mawr Wybrnant, ffermdy o'r 16eg ganrif yn nyffryn Wybrnant ger Penmachno, Conwy. Y cartref hanesyddol hwn yw man geni'r Esgob William Morgan, y sicrhaodd ei gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg ym 1588 - 'Y Beibl Cyssegr-lan' – bod yr iaith Gymraeg wedi goroesi.
Mae'r arddangosfa yn archwilio gwaddol parhaol gwaith Morgan a'r dirwedd a'i hysbrydolodd. Mae'r arddangosfa yn cynnwys 'Y Beibl Cyssegr-lan' (1588) ochr yn ochr â detholiad o Feiblau sydd wedi’u cyfrannu—gyda phob un â’i stori unigryw ei hun o ffydd, iaith a balchder cenedlaethol.
Ar ôl agor yr arddangosfa yn ffurfiol, dywedodd Janet:
"Mae wedi bod yn bleser cefnogi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda'u gweledigaeth wych i ddod â'r Beibl Cyssegr-lan i'r Senedd, ac yn anrhydedd agor yr arddangosfa yn ffurfiol.
"Dylid dathlu'r testun crefyddol nodedig hwn yng nghalon deddfwriaethol Cymru, y mae'n parhau i ddylanwadu arni hyd heddiw.
"Mi wnaeth gwaith yr Esgob William Morgan safoni'r Gymraeg, ac felly mae wedi cael dylanwad enfawr.
"Mae llawer, dros y canrifoedd, yn haeddu canmoliaeth am oroesiad yr iaith, gan gynnwys yr Esgob Morgan. Rwy'n hyderus y bydd y gweithgareddau a gynhelir nawr yn helpu i wella ymwybyddiaeth o'i gyfraniad a phwysigrwydd Beibl 1588".
DIWEDD