Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Heddlu Gogledd Cymru i gadw llygad ar Ffordd y Frenhines yn sgil pryderon am oryrru

  • Tweet
Monday, 9 August, 2021
  • Local News

Yn dilyn llythyrau’r Aelod at Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr wythnos diwethaf, ynghylch yr angen i wella diogelwch cerddwyr ar frys ar hyd Ffordd y Frenhines yng Nghraig-y-Don, mae Janet Finch-Saunders AS wedi croesawu’r newyddion y bydd swyddogion yn cadw llygad ar y ffordd.

Wrth gyfeirio at y newyddion, dywedodd Janet: 

“Rwy’n hynod o falch bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn anfon swyddogion yno i warchod rhag goryrru, yn sgil fy llythyr atynt yn mynegi fy mhryder yr wythnos diwethaf. Mae hwn yn gam hanfodol a chadarnhaol i’r cyfeiriad cywir sy’n sicrhau y bydd ein pryderon yn cael sylw. 

“Gyda’r broblem barhaus yn peri risg wirioneddol i ddiogelwch plant ifanc lleol, roedd fy llythyr yn glir y dylid trin y mater hwn fel blaenoriaeth. Bydd presenoldeb gweledol yr heddlu yn cael ei groesawu, a bydd yn cynnig tawelwch meddwl i’r holl rieni sydd wedi cysylltu â’m swyddfa i fynegi eu pryderon.

“Byddaf yn parhau i weithio gyda’r holl randdeiliaid dan sylw, gan gynnwys grŵp ardderchog Cyfeillion Queen’s Park, i sicrhau bod buddsoddi mewn unrhyw fesurau tawelu traffig hirdymor yn adlewyrchu’r defnydd cynyddol o gyfleusterau nodedig y parc.” 

DIWEDD

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree