Following the announcement of the internal consultation on the proposed closure of the Urgent Primary Care Centre at Ysbyty Penrhos Stanley, Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Bangor, Conwy Môn, has launched a campaign to save the care centre.
Janet commented:
“The proposed closure of the Urgent Primary Care Centre is deeply concerning. The closure of this community care provision would have a devastating impact on Ynys Môn. This is a further blow to patients and constituents across Bangor, Conwy Môn.
“It is vital that Betsi Cadwaladr University Health Board supports these centres to remain open. Without them, existing waiting times could increase, potentially leading to delays in treatment.
“I have written to the Cabinet Minister for Health and Care, calling on him to intervene and ensure that the care centre remains open. In addition, I have launched this campaign, which can be found on my website:
or by following this link:
“It is essential that you have your say on this proposed closure. I urge you to sign my petition and write to Betsi Cadwaladr University Health Board to oppose the closure.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Yn dilyn cyhoeddi'r ymgynghoriad mewnol ar gynlluniau i gau'r Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys yn Ysbyty Penrhos Stanley, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bangor Conwy Môn, wedi lansio ymgyrch i achub y ganolfan ofal.
Meddai Janet:
"Mae cau'r Ganolfan Gofal Sylfaenol Brys yn achos pryder mawr. Byddai cau'r ddarpariaeth hon ar gyfer gofal yn y gymuned yn cael effaith ddinistriol ar Ynys Môn. Mae hon yn ergyd arall i gleifion ac etholwyr ar draws Bangor Conwy Môn.
"Mae'n hanfodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu cefnogaeth er mwyn i’r canolfannau hyn aros ar agor. Hebddyn nhw, gallai amseroedd aros presennol gynyddu, gan arwain at oedi mewn triniaeth.
"Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, yn galw arno i ymyrryd a sicrhau bod y ganolfan gofal yn parhau ar agor. Hefyd, rwyf wedi lansio'r ymgyrch hon, sydd i'w gweld ar fy ngwefan: www.janetfinchsaunders.org.uk
neu drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.janetfinchsaunders.org.uk/campaigns/save-ysbyty-penrhos-sta…
"Mae'n hanfodol eich bod chi'n cael y cyfle i ddweud eich dweud ar y cynllun hwn i gau’r ganolfan. Rwy'n eich annog i lofnodi fy neiseb ac ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wrthwynebu'r cynllun."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS