Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi rhoi croeso pwyllog heddiw (07 Awst) i'r newyddion y bydd cymunedau gwledig Cymru yn elwa ar gyllid band eang ffeibr llawn, gan ychwanegu bod yn rhaid i drefi a phentrefi 'dderbyn y cyflymder a addawyd'.
Dywedir bod y cyswllt â 3.2 miliwn o safleoedd y DU, a gafodd y sêl bendith yn dilyn ymgynghoriad Ofcom, yn rhan o fuddsoddiad £12 biliwn gan Openreach i adeiladu seilwaith ffibr llawn i 20 miliwn safle ledled y DU erbyn diwedd y degawd hwn.
Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Janet:
“Rwy'n rhoi croeso pwyllog i'r newyddion y bydd Cymru'n elwa ar y cylch diweddaraf hwn o fuddsoddiad band eang ffeibr llawn gan Openreach, gan roi blaenoriaeth i gymunedau gwledig diarffordd wrth i'n ffermwyr a'n gweithwyr amaeth geisio arallgyfeirio eu busnesau.
“Gan fod gweithio gartref yn dod yn duedd gynyddol a chyffredin, ni allwn barhau i adael i gyflymder rhyngrwyd rhewlifol effeithio ar lefelau cyflogaeth, cyrhaeddiad addysgol a chynhyrchiant busnes ar hyd a lled ein trefi a phentrefi gwledig.
“Mae'n deg dweud bod cryn le i wella ar y dull rywsut-rywsut o gyflwyno band eang ffeibr llawn ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau a chartrefi gwledig wedi cysylltu â mi i ddweud bod eu cais i uwchraddio wedi'i wrthod, er bod llinellau ffibr yn rhedeg heibio i'w heiddo.
“Drwy dderbyn y cyflymder a addawyd o'r diwedd, gall busnesau gwledig ein cenedl barhau i fod yn gystadleuol mewn cymdeithas fwyfwy digidol. Dim ond cysylltiad rhyngrwyd parhaus a dibynadwy fydd yn helpu i gyflawni hyn."
DIWEDD