Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Gweinidog yr Wrthblaid yn croesawu astudiaeth i atal cau lladd-dai bach

  • Tweet
Tuesday, 28 July, 2020
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (28 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi annog lladd-dai ledled Cymru i gyfrannu at astudiaeth hyfywedd ar y sector. Daw ei galwadau ar ôl iddo ddod i’r amlwg y bydd cwmnïau yn elwa ar gyllid cyhoeddus o dan delerau Bil Amaethyddiaeth newydd Llywodraeth y DU.

Nod yr astudiaeth, a gynhelir gan Brifysgol Newcastle a’i chyllido gan Gronfa Cefn Gwlad Tywysog Cymru, yw nodi pa gamau y gellir eu cymryd i helpu i atal lladd-dai llai rhag cau. Daw’r astudiaeth ar ôl i 12 lladd-dy bach gau yn ystod y 18 mis diwethaf.

Wrth siarad am yr astudiaeth, dywedodd Janet:

“Mae’n drist dros ben, er bod y lladd-dai yn mynd ati i geisio lleihau milltiredd bwyd a hybu economïau lleol, mae ei niferoedd wedi gostwng o draean yn ystod y degawd diwethaf. Gyda hyn mewn golwg, rwy’n croesawu’r newyddion y bydd lladd-dai bach yn elwa ar gyllid cyhoeddus o dan delerau Bil Amaethyddiaeth newydd y DU.

“Bydd yr arian hwn yn cefnogi’r sector wrth iddo geisio gwneud y newidiadau angenrheidiol ac amrywiol i amddiffyn ei hyfywedd yn yr hirdymor. Wedi’r cwbl, mae’r cwmnïau hyn yn helpu i gefnogi cynhyrchwyr cig llesiant uchel ein cenedl mewn cyfnod o heriau cystadleuol parhaus.

"Fodd bynnag, mae’n rhaid i benderfyniadau polisi ar ddosbarthu arian fod yn seiliedig ar ddata. Mae’n amlwg y bydd canfyddiadau’r astudiaeth hyfywedd cenedlaethol newydd hon yn cael eu defnyddio i nodi pa gamau y gellir eu cymryd i atal lladd-dai llai rhag cau, a bydd yn dylanwadu ar sut y darperir cymorth yn y blynyddoedd nesaf.

“Rwy’n erfyn ar berchnogion a rheolwyr lladd-dai ledled Cymru i ystyried llenwi’r arolwg dienw hwn er mwyn i’w ganlyniadau cyfanredol lywio polisi yn well ym Mae Caerdydd a thu hwnt. Mae’r dull traws-sector hwn a arweinir gan ddata yn angenrheidiol i ddiogelu dyfodol y sector hwn a diogelu swyddi.”

DIWEDD

You may also be interested in

J

MS Calls for Residents’ Voices to Be Heard Over Proposed Wind Turbine Sites

Friday, 17 July, 2026
Janet Finch-Saunders MS has written to the Cabinet Minister for Enterprise, Connectivity and Energy, Adam Price MS, calling for the concerns of local residents to be fully considered following proposals to construct wind turbines on Mynydd Tryfan. The proposed development has generated signific

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree