Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Glanhau’r traeth yn Llandudno gydag AS Aberconwy a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol

  • Tweet
Thursday, 24 June, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros y Newid yn yr Hinsawdd – wedi cyhoeddi sesiwn glanhau’r traeth yr haf hwn yn Llandudno, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol. Cynhelir y digwyddiad, sydd wedi'i drefnu yn unol â chanllawiau Covid llywodraeth leol a chenedlaethol, ddydd Gwener 2 Gorffennaf 2021, rhwng 11:30 a.m a 12:30 p.m. Bydd y grŵp yn cyfarfod wrth y Senotaff gyferbyn â Thraeth y Gogledd Llandudno ac yn cadw pellter cymdeithasol.

Wrth agor y mannau sy'n weddill i'r cyhoedd, dywedodd Janet:

"Mae gan ein cymuned hanes balch o helpu’n gilydd. Mae llawer o'n heconomi yn Llandudno yn dibynnu ar lwyddiant y diwydiant twristiaeth a hynny’n rhannol seiliedig ar ymdrechion ein cyngor, ein gwirfoddolwyr a’n gwestywyr i gadw ein mannau cyhoeddus i edrych ar eu gorau.

"Dyma pam rwy'n falch o gynnig y lleoedd sy'n weddill ar fy sesiynau glanhau traethau i aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb. Drwy weithio gyda'n gilydd, bydd y gwaith o lanhau’r traeth yr haf hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir wrth i ni barhau i weithio i ddiogelu ein cynefinoedd arfordirol.

"Yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae llygredd plastig yn parhau i fod yn un o bum prif sbardun yr argyfwng bioamrywiaeth presennol. Un o’r ffeithiau mwyaf brawychus yw y gall y sbwriel hwn beri difodiant tua 40% o famaliaid môr. Fel hyrwyddwr y boblogaeth leol o lamhidyddion, byddaf yn parhau i weithio i ddileu’r perygl hwn."

Diwedd

Llun: Janet Finch-Saunders AS a'i thîm, yn ogystal â Clare Trotman o'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, yn ystod Sesiwn Casglu Sbwriel Medi 2020.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree