Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galwadau o’r newydd am Gronfa Iawndal am Ganslo i fusnesau lletygarwch a thwristiaeth

  • Tweet
Thursday, 16 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ategu galwadau i Lywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Iawndal am Ganslo ar gyfer busnesau lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, cyn yr adolygiad ar gyfyngiadau Coronafeirws a gynhelir ddydd Gwener.

Yn gynharach yr wythnos hon, wrth ateb cwestiwn Janet ar y mater, rhoddodd y Prif Weinidog sicrwydd y bydd y weinyddiaeth yn “ystyried yr hyn y gallem ei wneud o'n hadnoddau ein hunain.” Mae nifer cynyddol o bobl yn canslo archebion mewn llawer o dai bwyta, caffis a busnesau llety wrth i’r wlad gyflymu ei hymdrechion i frwydro amrywiad omicron newydd o coronafeirws.

Daw’r ymyriad wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £135 miliwn arall i helpu gyda’r gwaith brechu a’r ymateb ehangach i Covid-19. Mae hwn yn swm ychwanegol sydd wedi’i gadarnhau ar ben y cyllid a bennwyd yng Nghyllideb Hydref 2021, a oedd yn ymwneud â’r pwysau ar iechyd a Chyllid Cymorth Ychwanegol Covid-19. 

Wrth siarad am argyfwng canslo'r diwydiant lletygarwch, dywedodd Janet:

“Gan fod llawer o bobl yn canslo a hynny’n parhau i gael effaith andwyol ar hyfywedd ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth hanfodol gydol cyfnod y Nadolig, y gwyddom sy’n gallu cyfrif am hyd at 25% o’u trosiant blynyddol, mae gan Lywodraeth Cymru’r grym a’r arian i sicrhau bod ein busnesau’n cael eu cefnogi’n llawn drwy Gronfa Iawndal am Ganslo bwrpasol.

“O gofio bod Llywodraeth Cymru eisoes yn eistedd ar £500 miliwn o gymorth Covid a newydd dderbyn hwb cyllid pellach gan Lywodraeth y DU i helpu i weithredu ei rhaglen frechu a’r ymateb ehangach angenrheidiol i’r pandemig, mae’n rhaid darparu eglurder i’n busnesau a’n hentrepreneuriaid cyn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau.

“Gydol y pandemig, mae cymorth i fusnesau wedi bod yn ôl-ystyriaeth i Weinidogion ym Mae Caerdydd yn rhy aml. Gyda’r Prif Weinidog yn ymddangos fel pe bai’n barod i dderbyn y syniad pan ofynnais iddo ddydd Mawrth, ac ymddygiad defnyddwyr eisoes yn newid o ganlyniad i rethreg gofalus, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n camu i mewn ac yn achub y diwydiant.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree