Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galwadau i hybu’r defnydd o ysbytai rhydd o Covid ledled Cymru

  • Tweet
Wednesday, 25 November, 2020
  • Local News

Heddiw (25 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o ysbytai rhydd o Covid ledled Cymru, fel ffordd o sicrhau bod llwybrau gofal cleifion yn cael eu rheoli’n briodol.

Mae'r amseroedd aros i'r rhai sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu 8 gwaith ers dechrau'r pandemig, gyda 168,944 o bobl yn dal i aros dros 36 wythnos am driniaeth. Rhagwelir y gallai hyd at 2,000 o bobl farw oherwydd oedi cysylltiedig â COVID yn GIG Cymru, ac mae hynny’n destun pryder.

Roedd yr aelod yn siarad fel rhan o ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd. Gallwch ddarllen trawsgrifiad o'r ddadl hon trwy glicio yma.

Wrth sôn am ei chyfraniad heddiw, dywedodd Janet:

“Mae’n rhaid i mi nodi’n glir nad oes a wnelo unrhyw bryderon neu feirniadaeth sydd gan fy etholwyr a minnau â’r arwyr rheng flaen sydd wedi brwydro mor ddewr yn erbyn y pandemig, ond yn hytrach gyda methiannau rheoli Llywodraeth Llafur Cymru dros gymaint o flynyddoedd.

“Ni ddylem fod o dan unrhyw gamargraff ynghylch y straen y mae ein gwasanaeth iechyd oddi tano. Nid yw’r targed o 95% ar gyfer cleifion sy'n treulio llai na phedair awr mewn unedau damweiniau ac achosion brys a thargedau amseroedd aros canser wedi eu cyflawni ers deng mlynedd. Ar sawl ystyr, mae'r pandemig presennol wedi tynnu sylw at fethiannau rheoli Llywodraeth Lafur Cymru dros gyfnod o ugain mlynedd.

"Dyma pam fy mod i’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi hwb ar unwaith i'r defnydd o ysbytai rhydd o COVID, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Ledled y DU, gallai sefydlu 19 o ardaloedd rhydd o COVID atal 6,000 o farwolaethau diangen yn gysylltiedig â COVID-19 ar ôl llawdriniaeth canser dros y flwyddyn nesaf.

"Mae system gofal iechyd Cymru yn fregus iawn ac yn wynebu tswnami o broblemau iechyd cyhoeddus o ganlyniad i oedi triniaethau. Mae'r methiant i ddefnyddio capasiti'r ysbytai maes ac annibynnol wedi rhoi pwysau ar yr ysbytai presennol yn ystod yr ail don. Ni ellir caniatáu i'r camgymeriadau hyn barhau. "

DIWEDD

Ffoto: Artur Tumasjan ar Unsplash

You may also be interested in

J

MS praise for the Church in Wales School Ysgol Bodafon

Thursday, 29 January, 2026
Ysgol Bodafon Church in Wales School has been praised for being a warm, inclusive and nurturing community where pupils feel safe, happy and respected. Recent inspection findings recognise the strong relationship between staff and pupils, with teachers and support staff knowing learners well and

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree