Mewn cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru am ddatganiad ar ddyfodol cylchfannau Llanfairfechan a Phenmaenmawr, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi pwysleisio’r angen am eglurder yn dilyn gohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru sy’n ymddangos ei fod yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen gyda’r broses statudol ar gyfer Cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 er gwaetha’r posibilrwydd y gallai’r panel adolygu ffyrdd roi diwedd ar y gwaith.
Gan roi sylwadau ar ei hymyriad yn y Senedd, dywedodd Janet:
“Mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi cicio eu sodlau dro ar ôl tro ac oedi wrth yrru’r gwaith gwella arfaethedig hwn yn ei flaen, ac mae hyn wedi gadael preswylwyr a busnesau Dwygyfylchi, Penmaenmawr a Llanfairfechan yn ei chanol hi.
“Ni all fod yn iawn fod Llywodraeth Cymru yn bwrw rhagddi gyda’r broses statudol ar gyfer Cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, gan wario mwy o arian trethdalwyr, dim ond i banel adolygu ffyrdd yna ddod draw a rhoi'r farwol ar yr holl brosiect.
“Ymddengys bod y diweddariad hefyd yn mynd yn groes i ddatganiad y Dirprwy Weinidog, a wnaed yn gynharach eleni, ei fod yn rhewi pob prosiect ffyrdd newydd yng Nghymru. Mae’n amlwg bod ei ymgais i lunio ymateb polisi newid hinsawdd wedi mynd yn ffliwch.
“Mae angen datganiad ar unwaith gan y Dirprwy Weinidog yn egluro pam mae’r broses statudol yn bwrw rhagddi cyn gwaith y panel adolygu ffyrdd, ac eglurder ynghylch ai oes yr ia ddeufis yn unig oedd rhewi’r ffyrdd newydd.”
Mae’r ymateb sylweddol diweddaraf i Gwestiynau Ysgrifenedig gan yr Aelod yn cadarnhau y bydd Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus pellach i’r cyffyrdd yn dechrau ar 21 Medi 2021.