Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galwad i weithredu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn ystod Wythnos Hosbisau Plant 2020

  • Tweet
Thursday, 25 June, 2020
  • Senedd News

Mae'n Wythnos Hosbisau Plant (22-28 Mehefin) a dylem i gyd ddod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hanfodol hyn yng Nghymru a sicrhau cyllid ar eu cyfer.

Galwodd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Ofal Cymdeithasol, Plant a Phobl ifanc am weithredu cymunedol i "helpu ein hosbisau" yr wythnos hon.

Mae'n wir na allai hosbisau plant yng Nghymru barhau i ddarparu'r un lefel o wasanaeth oni bai am eich haelioni chi.

Wrth drafod y sefyllfa, meddai Mrs Finch-Saunders:

“Mae hosbisau'n rhoi cymorth a chefnogaeth amhrisiadwy i blant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Mewn gwirionedd, does unman arall y gallan nhw droi ato am y gofal a'r cymorth hanfodol hwn.

“Mae Tŷ Hafan  yn llwyddo i wneud hyn er gwaetha'r ffaith ei bod hi'n costio dros £4miliwn y flwyddyn i ddarparu gofal a hwythau'n derbyn llai na 4% o gyllid statudol tuag at y ffigur hwnnw.

“Yn yr un modd, mae Tŷ Gobaith angen £6.5 miliwn i weithredu bob blwyddyn, er mai dim ond gwerth mis o incwm maen nhw'n ei dderbyn o ffynonellau statudol.

“Felly, mae ein dau hosbis yn ddibynnol arnoch chi a'ch haelioni i barhau i ofalu am blant a'u teuluoedd.

“Mae gan fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig a  minnau hanes o geisio gweld Llywodraeth Cymru yn talu mwy, ond heb lwyddo eto.

“Yn ystod wythnos yr hosbisau, beth am gyfrannu i'r naill sefydliad neu'r llall yma yng Nghymru. Maen nhw wedi bod yn ofalgar gydol yr argyfwng presennol, felly gadewch inni ddangos ein gofal ni drostyn nhw trwy godi ymwybyddiaeth neu gyfrannu'r hyn a allwn ni."

DIWEDD

 

Nodiadau:

  • Tŷ Hafan: Gallwch gyfrannu yma
  • Tŷ Gobaith: Gallwch gyfrannu yma
  • Wythnos Hosbisau Plant 2020

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree