Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galw am ymgyrch ar y cyfryngau digidol i atal ymosodiadau ar ddefaid

  • Tweet
Thursday, 1 July, 2021
  • Local News

Wrth barhau â'i hymgyrch i roi terfyn ar ymosodiadau diangen ar ddefaid, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS –  wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch ar y cyfryngau digidol er mwyn helpu i atal digwyddiadau o’r fath dros yr haf.

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, gofynnodd Janet: 

“Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithredu ymgyrch cyfryngau digidol i annog ymwelwyr gwledig i gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn atal ymosodiadau sy'n aflonyddu ar ddefaid?

Daw ei hymyrraeth wrth i'r broblem gael mwy o sylw prif ffrwd. Nos Sul, ymddangosodd Dan Jones (bugail Pen y Gogarth) ar raglen Countryfile BBC One i godi ymwybyddiaeth o effaith digwyddiadau o'r fath ar ffermwyr, perchnogion cŵn a'u hanifeiliaid anwes.  

Wrth sôn am yr angen i godi ymwybyddiaeth, dywedodd Janet: 

“Roedd canlyniadau arolwg 2021 y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol yn peri pryder mawr i mi, gan ddangos bod ffermwyr, ar gyfartaledd, wedi profi saith achos o boeni defaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a arweiniodd at anafu pum dafad a lladd dwy fesul ymosodiad. Yn aml, ni chafodd ymatebwyr fawr o iawndal os o gwbl.

“Ond yn fwy na'r effaith economaidd, mae'r digwyddiadau hyn yn cynyddu pryder, straen a rhwystredigaeth ddiangen i'n harwyr amaethyddol. Tanlinellwyd effaith y digwyddiadau hyn, y gellir eu hatal, yn stori rymus Dan Jones, bugail Pen y Gogarth, ar raglen deledu flaenllaw'r BBC dros y penwythnos.

“Gyda nifer yr ymwelwyr â'n cymunedau gwledig hardd yn debygol o gynyddu yr haf hwn, dylai Llywodraeth Cymru fynd ati yn awr i weithredu ymgyrch gyhoeddusrwydd ddigidol ar y cyd â Croeso Cymru. Mae'r neges gadarnhaol sydd angen ei chyfleu yn syml – cadwch eich ci ar dennyn.

“Er fy mod i wedi 'nghalonogi'n fawr gan y mesurau diweddar sydd yn y Bil Lles Anifeiliaid diweddar, a osodwyd gerbron Senedd San Steffan, gall Llywodraeth Cymru chwarae rhan weithredol hefyd yn y gwaith o addysgu ymwelwyr i fwynhau ein cefn gwlad godidog mewn modd diogel a buddiol i bawb."

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Cyflwynwyd mesurau i fynd i'r afael â digwyddiadau o'r fath yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), a gyflwynwyd i Senedd y DU ym mis Mehefin 2021 sy'n cynnwys pwerau gwell i helpu'r heddlu i ymateb i achosion sy'n gallu arwain at anafiadau sylweddol, dioddefaint a marwolaeth i anifeiliaid fferm, ac achosi trallod a chostau ariannol i ffermwyr. 

Llun: gan Sam Carter ar Unsplash

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree