Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Galw am Gynllun Oeri Goddefol yn dilyn y rhybudd 'Gwres Llethol'

  • Tweet
Tuesday, 20 July, 2021
  • Senedd News

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ei Rhybudd Gwres Llethol Ambr cyntaf erioed wrth i rannau helaeth o'r DU barhau i brofi amodau poeth yr wythnos hon. Yn dilyn y newyddion a chyda phryder yn codi'n lleol am effaith hafau cynhesach, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau cynlluniau i roi cymhellion i ddefnyddio systemau oeri goddefol.  

Daw'r alwad ar ffurf Cwestiwn Ysgrifenedig i'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae rhybudd tywydd ambr y Swyddfa Dywydd yn cwmpasu rhannau helaeth o Gymru, de-orllewin Lloegr i gyd a rhannau o dde a chanolbarth Lloegr. Bydd ar waith tan ddydd Iau, pan ddisgwylir i'r tymheredd gyrraedd uchafbwynt, ac mae'n rhybuddio am effaith bosibl y gwres ar iechyd pobl. 

Gan egluro'r angen am gynllun hirdymor, dywedodd Janet: 

“Roedd cyflwyno'r rhybudd tywydd newydd hwn gan y Swyddfa Dywydd yn gydnabyddiaeth ddifrifol y bydd tywydd poeth yn dod yn fwy tebygol ac yn fwy eithafol oherwydd newid hinsawdd byd-eang. Roedd hyn yn risg a wireddwyd yn yr adroddiad CCRA3 diweddar, a oedd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu. 

“Mae arbenigwyr yn dweud wrthym y gallai nifer y diwrnodau poeth iawn yn y DU gynyddu bedair gwaith cymaint ag y maent, gan achosi risg sylweddol i iechyd pobl a rhoi ein pobl fwyaf agored i niwed mewn perygl o fynd i'r ysbyty. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar alwadau adroddiad CCRA3 a mynd ati i gyflwyno cynllun i roi cymhellion i gyflwyno systemau oeri goddefol. 

“Drwy ganolbwyntio ein grym polisi ar systemau oeri goddefol, dros rai mecanyddol cyfatebol, gallwn gyflwyno dull dylunio adeiladau sy'n canolbwyntio ar wasgaru gwres gan ddefnyddio dim neu fawr ddim ynni. Nid yw'r broblem hon yn mynd i ddiflannu – mae angen i ni fynd i’r afael â hi mewn ffordd ragweithiol.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • I ddysgu mwy am y rhybudd tywydd, cliciwch yma. 
  • Yn gynharach y mis hwn hefyd, pwysodd Janet ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn cynyddu plannu coed trefol i helpu i reoleiddio’r tymheredd. Mae astudiaeth ddiweddar wedi gweld y gall y cysgod a roddir gan goed mawr a deiliog gael "effaith oeri sylweddol" o hyd at 12 gradd. 

Ffotograff: gan Jordan Stewart ar Unsplash

 

You may also be interested in

J

More Frustration at Britannia Bridge Delays

Friday, 7 November, 2025
The recent written statement from the Welsh Government outlines the recommendations from the North Wales Transport Commission regarding the ongoing issues on Britannia Bridge. The Welsh Government has committed to advance further work and assessments for wind deflectors, and also to introduce a

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree