Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Gall Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus gynyddu ymosodiadau ar dda byw

  • Tweet
Friday, 23 February, 2018
  • Local News

Yn dilyn y newyddion bod Heddlu’r Gogledd wedi cofnodi 449 achos o boenydio da byw ac ymosodiadau arnyn nhw rhwng 2013 a 2017, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi canmol gwaith Tîm Troseddu Gwledig y Gogledd, ond pwysleisiodd y ffaith y gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod yn gwneud llawer mwy, yn enwedig yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Meddai Janet:

“Mae’r ffaith bod 376 o dda byw wedi’u hanafu, a 648 wedi’u lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn yn peri cryn bryder.

“Yn ogystal â chael effaith negyddol iawn ar y busnes amaethyddol dan sylw, wrth ystyried y loes i’r da byw yn ystod yr ymosodiadau, a chyflwr yr anifeiliaid unwaith roedd y cŵn wedi gorffen, torcalonnus o ffiaidd yw’r unig ffordd o ddisgrifio’r sefyllfa.

“Er fy mod yn cefnogi gwaith Tîm Troseddu Gwledig y Gogledd, ac wedi canmol gwaith y tîm yn y gorffennol, mae’n amhosib iddyn nhw ymdrin â’r mater hwn ar eu pennau eu hunain.

“Heb amheuaeth, dylai pawb ymdrechu i wneud yn siŵr bod ein cŵn ar dennyn bob amser pan fyddan nhw gerllaw da byw neu ar dir fferm/fynydd agored. Fodd bynnag, gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy helpu hefyd.

“Yn ystod yr ymgynghoriad cyfredol i Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, bu galwadau ar y Cyngor i gymryd sylw o’r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Les Anifeiliaid. Yr hyn sy’n arbennig o arwyddocaol yw’r rhybudd y dylai’r holl awdurdodau lleol fod yn ofalus wrth ystyried y mannau agored sydd ar gael i’w defnyddio gan gŵn heb dennyn fel rhan o’r adolygiad o Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, ac y gall cyfyngu’r ardaloedd hyn arwain at berchnogion cŵn yn gorfod mentro i gefn gwlad, gan felly gynyddu’r risg i dda byw.

“Yma yng Nghonwy, mae gennym ffactor ychwanegol i’w ystyried gan fod y dull y mae swyddogion a gyflogir gan Gonwy i gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig yn atal pobl rhag cerdded yn ein hardaloedd trefol hefyd, gan felly annog mwy o bobl i gerdded eu cŵn yng nghefn gwlad o bosibl - yn ddigon pell o lygaid y swyddogion.”

DIWEDD

Cwestiwn Seneddol Ysgrifenedig ar gyfer Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:

 A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar y ffaith bod cost yr ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yng Nghymru wedi cynyddu 40 y cant rhwng 2015 a 2017, ac a fydd hi’n egluro’r hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i helpu’r ffermwyr sy’n cael eu heffeithio?

Nodiadau

Heddlu’r Gogledd yn cofnodi bod 50 o gŵn a ymosododd ar dda byw wedi’u saethu 

Adroddiad newydd gan yr heddlu yn tynnu sylw at yr hyn sy’n rhwystro’r gwaith o fynd i'r afael â'r ymosodiadau ar dda byw   

Adroddiad terfynol Gweithgor yr Heddlu ar Boenydio Da Byw

Galwadau i Gynorthwyo Tîm Troseddu Gwledig y Gogledd

Ymgyrch Newydd i Leihau nifer yr Ymosodiadau ar Ddefaid

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree