Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is delighted to invite constituents her free defibrillator awareness training event coming next month.
A Public Access Free Defibrillator Awareness Course will be held by St John Ambulance at Craig-y-Don’s Community Centre at 16:00 on Friday 15 November.
Training will include; how to manage an incident, spotting signs of chest pains, undertaking a primary survey and resuscitation (CPR), and an introduction to the use of an Automated External Defibrillator (AED).
Commenting on the course Janet said:
“Through dedicating a few hours of your time to learn life saving skills you could empower yourself to save a life in future.
“In Wales around 5,000 hospital admissions each year are for heart attacks: that's an average of 14 each day or one around every 100 minutes.
“I am grateful to St John Ambulance for their kind cooperation and willingness to teach us how to use a defibrillator, and what to do when we come across an unconscious casualty, or one experiencing chest pains.
“If you would like to attend the free course then please contact myself at [email protected] or call my office on 01492 871 198.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o wahodd etholwyr i'w digwyddiad hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch diffibrilwyr, a gynhelir fis nesaf yn rhad ac am ddim.
Bydd St John Ambulance yn cynnal cwrs Ymwybyddiaeth o Ddiffibrilwyr yng Nghanolfan Gymunedol Craig-y-Don am 4 o'r gloch prynhawn Gwener 15 Tachwedd.
Bydd hyfforddiant yn cynnwys; sut i reoli digwyddiad, adnabod arwyddion poenau'r frest, cynnal arolwg sylfaenol a dadebru (CPR), a chyflwyniad i'r defnydd o Gyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (AED).
Wrth sôn am y cwrs dywedodd Janet:
“Drwy neilltuo ychydig oriau o'ch amser i ddysgu sgiliau achub bywyd, gallech rymuso'ch hun i achub bywyd yn y dyfodol.
“Yng Nghymru mae tua 5,000 yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn oherwydd trawiad ar y galon: mae hynny'n gyfartaledd o 14 bob dydd neu un bob 100 munud.
“Rwy'n ddiolchgar i St John Ambulance am eu cydweithrediad caredig a'u parodrwydd i'n dysgu sut i ddefnyddio diffibriliwr, a beth i'w wneud os ydyn ni’n dod ar draws rhywun sy'n anymwybodol neu'n cael poenau yn y frest.
“Os hoffech fynychu'r cwrs am ddim, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch fy swyddfa ar 01492 871 198.”
DIWEDD