Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is concerned at the fake QR codes that are appearing on parking machines in and around Llandudno.
Fake QR codes are being placed on council-owned parking machines in an attempt to trick people into handing over their card details. Parking officers discovered these codes on meters on The Parade in Llandudno and Colwyn Bay promenade over the weekend.
Although the codes appear to be part of the council's payment system, they actually direct users to a fraudulent website. The council clarified that it uses the PayByPhone app for payments, not QR codes.
Commenting on the news Janet said:
“I am extremely concerned by the use of these phishing QR codes. They are completely fraudulent and must not be used to pay for parking.
“Please only use the PayByPhone app provided to pay for parking.
“There is a real danger that people will not only be handing over card details but also risk getting parking fines from the Council.
“I am aware that enforcement officials are collaborating with the Council and North Wales Police to remove the codes and shut down the fraudulent site. I trust this issue will be resolved quickly.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, yn pryderu am y codau QR ffug sy'n ymddangos ar beiriannau parcio yn Llandudno a'r cyffiniau.
Mae codau QR ffug yn cael eu gosod ar beiriannau parcio sy'n eiddo i'r cyngor mewn ymgais i dwyllo pobl i drosglwyddo manylion eu cerdyn. Fe wnaeth swyddogion parcio ddarganfod y codau hyn ar fesuryddion ar y Parêd yn Llandudno ac ar bromenâd Bae Colwyn dros y penwythnos.
Er ei bod yn ymddangos bod y codau'n rhan o system dalu'r cyngor, maen nhw mewn gwirionedd yn cyfeirio defnyddwyr at wefan dwyllodrus. Eglurodd y cyngor ei fod yn defnyddio'r ap PayByPhone ar gyfer taliadau, nid codau QR.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:
“Rwy'n bryderus iawn am y defnydd o'r codau QR gwe-rwydo hyn. Maen nhw'n gwbl dwyllodrus ac ni ddylid eu defnyddio i dalu am barcio.
“Defnyddiwch yr ap PayByPhone a ddarperir i dalu am barcio.
“Mae perygl gwirioneddol y bydd pobl nid yn unig yn trosglwyddo manylion er cerdyn ond hefyd yn wynebu risg o gael dirwyon parcio gan y Cyngor.
“Rwy'n ymwybodol bod swyddogion gorfodi yn cydweithio â'r Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru i gael gwared ar y codau a chau'r safle twyllodrus. Rwy'n gobeithio y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys yn gyflym.”
DIWEDD