Janet Finch-Saunders MS is warning residents to be extra vigilant following the disclosure by the Financial Ombudsman Service that fraud and scam complaints hit highest ever level.
Data from the Financial Ombudsman revealed:
- More than 8,700 fraud and scam cases in just a three-month period;
- Over half of those cases related to online bank transfers;
- Crimes are becoming more complex and convincing – with some frauds involving multiple banks.
By comparison in the same period in 2023/24 there were 6,094 fraud and scam complaints, as reported last year.
Commenting on the situation, Janet said:
“Fraudsters are for ever coming up with different evil techniques to con residents. For example, there has been a significant rise in complaints where people spot investment opportunities on social media and then inadvertently pay fraudsters using their debit or credit cards.
“Some are calling residents pretending to be their bank and asking for money to be moved. If you receive such a call, please hang up and contact your bank directly.
“Do not be ashamed if you are a victim. Make a complaint to North Wales Police and the Financial Ombudsman Service.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders AS yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus iawn ar ôl clywed y newyddion gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol fod cwynion am dwyll a sgamiau wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed.
Mae data gan yr Ombwdsmon Ariannol yn datgelu’r canlynol:
- Cafwyd dros 8,700 o achosion o dwyll a sgamiau mewn tri mis yn unig;
- Roedd dros hanner yr achosion yn ymwneud â throsglwyddiadau banc ar-lein;
- Mae troseddau yn mynd yn fwy cymhleth a thwyllodrus – a rhai o’r achosion o dwyll yn cynnwys sawl banc.
Wrth gymharu â’r un cyfnod yn 2023/24, cafwyd 6,094 o gwynion am dwyll a sgamiau, yn yr adroddiad y llynedd.
Meddai Janet wrth siarad am y sefyllfa:
“Mae twyllwyr wrthi drwy’r amser yn dyfeisio triciau newydd i dwyllo pobol. Er enghraifft, fe welwch lawer mwy o achosion lle mae pobl yn gweld cyfle i fuddsoddi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn defnyddio eu cardiau debyd neu gredyd i dalu twyllwyr.
“Mae rhai twyllwyr yn ffonio pobl ac yn honni eu bod yn weithwyr banc ac yna’n gofyn i bobl symud arian. Os ydych chi’n derbyn galwad ffôn fel hyn, dylech chi roi’r ffôn i lawr a chysylltu â’ch banc ar unwaith.
“Peidiwch â theimlo cywilydd os ydych chi’n cael eich twyllo. Dylech gwyno wrth Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.”
DIWEDD