
According to the Office for National Statistics (ONS) borrowing was £20.2bn, up £1bn from April last year.
The latest figure marks the fourth highest amount for April since monthly records began in 1993, and follows the other bad financial announcement this week with the news that inflation was 3.5% in April, up from 2.6% in March.
Commenting on UK Government borrowing, Janet said:
“Inflation is higher than economists expected, borrowing is more than the Office for Budget Responsibility forecasted, and the public are rightly extremely frustrated with the UK Labour Government.
“The Chancellor and Prime Minister have caused an absolute mess, leaving experts now predicting that they will find it very hard to meet their self-imposed rules for the economy without future tax rises.
“As a Chief Economic Advisor has stated, talk of the reinstatement of some winter fuel payments and the likely need to spend more on defence will further increase the pressure for tax rises, so we are heading towards all of us paying even more of our hard earned money to the state.
“The most ridiculous point of this historic borrowing high is that it amounts to UK Government self-harm. Indeed, government expenditure rose, largely due to pay rises and higher costs due to inflation!”
ENDS
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) benthycwyd £20.2 biliwn, sy’n gynnydd o £1 biliwn ers mis Ebrill y llynedd.
Mae'r ffigur diweddaraf yn nodi'r pedwerydd swm uchaf ar gyfer mis Ebrill ers dechrau cofnodion misol ym 1993, ac mae'n dilyn cyhoeddiad ariannol gwael arall yr wythnos hon gyda'r newyddion bod chwyddiant yn 3.5% ym mis Ebrill, i fyny o 2.6% ym mis Mawrth.
Wrth sôn am fenthyca Llywodraeth y DU, dywedodd Janet:
"Mae chwyddiant yn uwch nag yr oedd economegwyr yn ei ddisgwyl, mae benthyca yn fwy nag a ragwelwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllideb, ac mae'r cyhoedd yn amlwg yn hynod rhwystredig gyda Llywodraeth Lafur y DU.
"Mae'r Canghellor a'r Prif Weinidog wedi achosi llanast llwyr, gan adael arbenigwyr bellach yn rhagweld y byddant yn ei chael hi'n anodd iawn cwrdd â'u rheolau eu hunain ar gyfer yr economi heb godiadau treth yn y dyfodol.
"Fel y dywedodd un o’r Prif Gynghorwyr Economaidd, bydd sôn am adfer rhai taliadau tanwydd gaeaf a'r angen tebygol i wario mwy ar amddiffyn yn cynyddu'r pwysau am godiadau treth ymhellach, felly mae’n ymddangos y bydd pob un ohonom yn talu hyd yn oed mwy o'n harian prin i'r wladwriaeth.
"Y pwynt mwyaf chwerthinllyd o'r ffigur benthyca uchaf erioed hwn yw ei fod yn gyfystyr â hunan-niweidio gan Lywodraeth y DU. Yn wir, cododd gwariant y llywodraeth, yn bennaf oherwydd codiadau cyflog a chostau uwch yn sgil chwyddiant!"
DIWEDD