Labour’s last Budget increased borrowing and taxes, contributing to higher inflation, with prices rising above target every month since.
Food prices have risen even faster, with new figures at 4.9 per cent, placing additional pressure on families and businesses across Wales.
Economists had expected inflation to fall further than today’s figures indicate. This news will only add to the frustration and concern felt by households facing rising weekly food bills, as well as businesses already struggling with elevated food and energy costs.
Alongside today’s announcement, the ONS has also reported that net migration figures for 2024 are 20 per cent lower than previously estimated, adding another layer of uncertainty to the wider economic picture.
Janet commented:
“Today’s news of rising food prices will cause real concern for residents and business owners across Aberconwy.
The pressures that families and businesses are facing as a result of the UK Government’s reckless policies are simply unacceptable. With the Budget taking place next week, Rachel Reeves must honour her manifesto commitment not to raise taxes on working people, and instead focus on reducing unnecessary government expenditure.
At a time when increasing numbers of people are choosing to leave the country, the UK Government must act to restore confidence in the economy and give businesses and citizens the support they need to thrive here, rather than feel pushed elsewhere.”
Aeth Cyllideb ddiwethaf Llafur ati i godi trethi a chynyddu faint o arian y mae’n ei fenthyca, gan gyfrannu at chwyddiant uwch, gyda phrisiau'n codi uwchlaw'r targed bob mis ers hynny.
Mae prisiau bwyd wedi codi hyd yn oed yn gynt, gyda’r ffigurau chwyddiant newydd yn 4.9 y cant, gan roi pwysau ychwanegol ar deuluoedd a busnesau ledled Cymru.
Roedd economegwyr wedi disgwyl i chwyddiant ddisgyn mwy nag y mae ffigurau heddiw yn ei ddangos. Bydd y newyddion yma ond yn ychwanegu at y rhwystredigaeth a'r pryder a deimlir gan aelwydydd sy'n wynebu cynnydd yn eu biliau bwyd wythnosol, yn ogystal â busnesau sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau bwyd ac ynni uchel.
Ochr yn ochr â chyhoeddiad heddiw, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi adrodd bod ffigurau mudo net ar gyfer 2024 20 y cant yn is nag a amcangyfrifwyd yn flaenorol, gan ychwanegu haen arall o ansicrwydd i'r darlun economaidd ehangach.
Meddai Janet:
"Bydd y newyddion heddiw am brisiau bwyd yn codi yn achosi pryder gwirioneddol i drigolion a pherchnogion busnes ledled Aberconwy.
Mae'r pwysau mae teuluoedd a busnesau yn ei wynebu o ganlyniad i bolisïau hurt Llywodraeth y DU yn annerbyniol. Gyda'r Gyllideb yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf, rhaid i Rachel Reeves anrhydeddu ymrwymiad ei maniffesto i beidio â chodi trethi ar bobl sy'n gweithio, a chanolbwyntio yn lle hynny ar leihau gwariant diangen y llywodraeth.
Ar adeg pan mae mwy a mwy o bobl yn dewis gadael y wlad, rhaid i Lywodraeth y DU weithredu i adfer hyder yn yr economi a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar fusnesau a dinasyddion i ffynnu yma, yn hytrach na theimlo eu bod yn cael eu gwthio i rywle arall."