Janet Finch-Saunders MS has urged local residents to give their views on an important flood prevention project in Aberconwy.
The Member of the Welsh Parliament has highlighted that the public will be given an update on a project around an existing embankment near Llanrwst.
Natural Resources Wales (NRW) is holding two drop-in sessions to share findings of updated baseline flood models and different options being considered for the Tan Lan Embankment.
The sessions are being held on Wednesday, November 30th between 3pm and 7pm, and Thursday, December 1st between 10am and 2pm at Llanrwst Library, Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF.
The new model provides data on the impact of river and tidal flooding on the 3.2km long embankment, situated north of Llanrwst, and the surrounding area.
Speaking today, Janet said:
“I’m very pleased to see that Natural Resources Wales are keen to engage with the local community around Tan Lan Embankment.
“I hope that as many people as possible to come along and make their voices heard, to find out more and share their thoughts.
“The new model will help to sustainably manage flood risk to the local communities, properties, land, services and infrastructure at Tan Lan, and I’m very pleased to have helped to see this process through.
“The feedback collected will help NRW finalise their assessment of a long list of options being considered for the embankment, and produce a short list of options for more detailed assessment in early 2023.
“Unfortunately, Welsh Parliamentary duties mean I won’t be able to attend, but I wish everyone all the very best for the drop-in sessions”.
Mae Janet Finch-Saunders AS wedi annog trigolion lleol i fynegi barn ar brosiect hollbwysig i atal llifogydd yn Aberconwy.
Dywed yr Aelod o'r Senedd y bydd y cyhoedd yn cael diweddariad ar brosiect arglawdd presennol ger Llanrwst.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i rannu canlyniadau modelau llifogydd llinell sylfaen wedi'u diweddaru ac opsiynau gwahanol sy'n cael eu hystyried ar gyfer Arglawdd Tan Lan.
Cynhelir y sesiynau ddydd Mercher, 30 Tachwedd rhwng 3pm a 7pm, a dydd Iau, 1 Rhagfyr rhwng 10am a 2pm yn Llyfrgell Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF.
Mae'r model newydd yn darparu data ar effaith llifogydd afon a llanw ar yr arglawdd 3.2km o hyd, sydd i'r gogledd o Lanrwst, a'r cyffiniau.
Wrth siarad heddiw, dywedodd Janet:
“Rwy'n falch iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i drin a thrafod Arglawdd Tan Lan gyda'r gymuned leol.
“Gobeithio y bydd cymaint â phosib yn dod draw i leisio eu barn, dysgu mwy, a rhannu eu safbwyntiau.
“Bydd y model newydd yn helpu i reoli perygl llifogydd yn gynaliadwy i'r cymunedau lleol, eiddo, tir, gwasanaethau ac isadeiledd yn Nhan Lan, ac rwy'n falch iawn o fod wedi helpu i gyflwyno'r broses hon.
“Bydd yr adborth yn helpu CNC i gwblhau eu hasesiad o restr hir o opsiynau sydd dan ystyriaeth ar gyfer yr arglawdd, a chynhyrchu rhestr fer o opsiynau ar gyfer cynnal asesiad manylach ddechrau 2023.
“Yn anffodus, mae dyletswyddau Senedd Cymru yn golygu na fyddaf yn gallu bod yno, ond hoffwn ddymuno'r gorau i bawb yn y sesiynau galw heibio"
DIWEDD/ENDS