Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is deeply concerned that seven years after the Grenfell tragedy, buildings in Wales are still awaiting the identification of necessary remediation work.
Following Grenfell, 4,600 buildings were identified across the UK as having cladding which was potentially unsafe. The latest government figures show 50% of these buildings have either had work to replace the cladding start or been completed – meaning over 2000 still remain at risk.
According to data disclosed this week by Jane Bryant MS, Cabinet Secretary for Housing, Local Government and Planning, currently in Wales, there are 238 buildings in the Welsh Government remediation programme. So far, 181 buildings have either had remediation work completed, are currently under construction, or have plans in development, pending surveys and the appointment of a contractor.
However, the Cabinet Secretary has stated:
“We are working with the remaining 53 buildings to identify any remediation needs.”
Commenting on the news Janet said:
“Every day, residents from Conwy to Cardiff live in fear. The recent serious incident in Dagenham has only heightened this anxiety, and it is time that work to make buildings safe is expedited.
“However, here in Wales the situation is even more serious. It turns out that the Welsh Government remediation programme is still to conclude whether works are required on 53 high rise buildings.
“In short, we have residents in Wales living in apartments, in blocks, which are yet to be confirmed as either safe or dangerous. This is a major failure by the Welsh Government that could have serious consequences”.
ENDS
Notes:
See Written Question response from the Cabinet Secretary
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn wirioneddol bryderus bod adeiladau yng Nghymru, saith mlynedd ar ôl trychineb Grenfell, yn dal i aros am y gwaith adfer angenrheidiol.
Yn dilyn trychineb Grenfell, nodwyd bod 4,600 o adeiladau ledled y DU â chladin a allai fod yn anniogel. Mae ffigurau diweddaraf y llywodraeth yn dangos bod gwaith i ddisodli’r cladin wedi dechrau neu ei gwblhau ar 50% o'r adeiladau hyn - sy'n golygu bod dros 2000 yn parhau i fod mewn perygl.
Yn ôl data a ddatgelwyd yr wythnos hon gan Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, yng Nghymru ar hyn o bryd, mae 238 o adeiladau ar raglen adfer Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae 181 o adeiladau naill ai wedi cael gwaith adfer sydd wedi'i gwblhau, yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, neu mae cynlluniau ar y gweill ar eu cyfer, gydag arolygon a phenodi contractwr i ddigwydd.
Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud:
"Rydyn ni’n gweithio gyda'r 53 adeilad sy'n weddill i nodi unrhyw anghenion adfer."
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Bob dydd, mae trigolion o Gonwy i Gaerdydd yn byw mewn ofn. Mae'r digwyddiad difrifol diweddar yn Dagenham ond wedi dwysáu'r pryder hwn, ac mae'n bryd cyflymu'r gwaith o sicrhau bod adeiladau'n ddiogel.
"Fodd bynnag, yma yng Nghymru mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol. Mae'n ymddangos bod rhaglen adfer Llywodraeth Cymru yn dal heb benderfynu a oes angen gwaith ar 53 o adeiladau uchel.
"Yn y bôn, mae gennym ni drigolion yng Nghymru sy’n byw mewn fflatiau, mewn blociau, sydd eto heb glywed a ydyn nhw’n ddiogel neu'n beryglus. Mae hyn yn fethiant llwyr gan Lywodraeth Cymru a allai arwain at ganlyniadau difrifol".
DIWEDD
Nodiadau:
Gweler yr ymateb i’r Cwestiwn Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghlwm