Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders yn Ymhyfrydu yn Llwyddiant Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB

  • Tweet
Friday, 13 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn ymweliad ag RSPB Conwy a dysgu am lwyddiant Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB eleni, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi manteisio ar y cyfle i ddiolch i’n gwarchodfa leol a’n trigolion am gymryd rhan. Yn ystod yr ymweliad â safle RSPB Conwy, cyfarfu Janet â Helen Jowett (Rheolwr Safle) a Julian Hughes (Pennaeth Rhywogaethau) hefyd i drafod materion polisi sy’n ymwneud ag adfer mawndiroedd, ynni morol adnewyddadwy a’r gylfinir.

Cynhaliwyd y digwyddiad gwylio adar blynyddol dros benwythnos yn gynharach eleni. Dyma arolwg adar mwyaf y byd ac mae wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 1979. Yn wir, digwyddiad 2021 oedd y mwyaf erioed, gyda dros filiwn o bobl yn cymryd rhan ac yn rhannu yn y cyffro. Yr adar oedd yn hedfan uchaf yn yr arolwg eleni oedd:

1. Aderyn y to

2. Titw Tomos las

3. Drudwen

4. Aderyn du

5. Ysguthan

6. Robin goch

7. Titw mawr

8. Nico

9. Pioden

10. Titw cynffon-hir

Wrth drafod canfyddiadau’r digwyddiad gwylio adar, dywedodd Janet:

“Diolch i RSPB Conwy a’r holl drigolion a helpodd i gyfrif mwy na 17 miliwn o adar. Roedd yn anhygoel ymweld â lleoliad mor wych, sy’n cynnig lle tawel i drigolion lleol ac ymwelwyr barhau i weld creaduriaid o’r fath y tu hwnt i’r digwyddiad blynyddol.

“Er bod adar y to wedi cadw’u crafangau ar y safle uchaf am y 18fed flwyddyn yn olynol, roedd rhai canfyddiadau pryderus, fel y gostyngiad parhaus yn niferoedd y llinos werdd a’r ji-binc. Yn anffodus, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae 40 miliwn o adar wedi diflannu o’r awyr uwchben y DU.

“Yn gynharach yr haf hwn, datganodd Senedd Cymru argyfwng natur. Rwy’n bendant y dylem weithio’n awr i sicrhau bod cyhoeddi argyfwng yn arwain at gamau go iawn sy’n gwrthdroi’r dirywiad hirdymor mewn niferoedd adar.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Helen Jowett (Rheolwr Safle) a Julian Hughes (Pennaeth Rhywogaethau)

You may also be interested in

janet

Senior Consultant Concerns Over Delays to the Pre-Operative Assessment Raised in Senedd Cymru

Thursday, 17 September, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Bangor Conwy Môn, has written to the Cabinet Minister for Health and Care and the Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board, calling for urgent action to address reported cancellations of operations due to delays in the Pr

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree