Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders yn mynd yn wyllt ar gyfer her natur fwyaf y DU

  • Tweet
Monday, 7 June, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi sôn am ei chefnogaeth i her natur fwyaf y DU, 30 Diwrnod Gwyllt. Y fenter yw her natur flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur lle maen nhw'n gofyn i bobl wneud un peth 'gwyllt' y dydd, bob dydd, gydol mis Mehefin.

Wrth sôn am yr angen i hyrwyddo ymgysylltu â natur, dywedodd Janet:

“Mewn blwyddyn pan fydd arweinwyr byd-eang yn dod ynghyd i drafod cynigion i ddiogelu a hyrwyddo bioamrywiaeth, mae'r fenter 30 Diwrnod Gwyllt yn ffordd berffaith o gofnodi'r cynnydd hwn yn nes at adref. O osod teclyn bwydo adar i adeiladu cartref draenogod, mae llawer o gamau bach y gall pawb eu cymryd i annog a diogelu ein bywyd gwyllt lleol.

“Mae wedi'i brofi'n wyddonol bod cysylltu â natur yn cynnig cyfleoedd newydd i leddfu straen a gwella ein hwyliau, i gynyddu cynhyrchiant a dod â phobl at ei gilydd. Mae hyn yn golygu y bydd y gweithgareddau a wneir ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt nid yn unig o fudd i'n planed, ond i'n lles ni hefyd.

“Gydol mis Mehefin, byddaf yn annog trigolion lleol i gyflawni Gweithredoedd Gwyllt ar Hap yn ddyddiol. Drwy ganolbwyntio meddyliau gyda'r fenter wych hon, rydw i'n gobeithio y bydd camau buddiol i hyrwyddo bioamrywiaeth yn parhau gydol y flwyddyn. Cymerwch ran da chi!”

DIWEDD

Ffotograff: gan Wayne M. ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree