Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders yn canmol ymrwymiad cymunedau i gynefinoedd arfordirol glân

  • Tweet
Friday, 2 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn digwyddiad glanhau traeth yn Llandudno heddiw, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac yn unol â chanllawiau’r Coronafeirws, canmolodd yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – ymrwymiad y gymuned i sicrhau cynefinoedd arfordirol lleol glân, drwy gael gwared ar “bla cyfoes plastig untro.” 

Wrth agor y digwyddiad, soniodd Janet – Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid – am ei hymgyrch i wahardd plastigau untro a chyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru-gyfan. Ymhlith y rhai a fynychodd y digwyddiad roedd yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, Mr Mark Isherwood AS; Clare Trotman o’r Gymdeithas Cadwraeth Forol; myfyrwyr o goleg St David’s College; a swyddogion o’r Lane End Group.

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Janet: 

“Mae’n fendith bod Aberconwy yn gartref i rai o arfordiroedd gorau’r Deyrnas Unedig, a’n bod ni’n gallu croesawu’r bywyd gwyllt a’r llystyfiant sy’n dod yn sgil hynny. Ond yn sgil hynny hefyd, daw cyfrifoldeb mawr i ofalu am ein cynefinoedd arfordirol a’u cynnal ar gyfer y cenedlaethau i ddod. 

“Gyda’r fath bwyslais ar yr argyfwng hinsawdd, rwy’n aml yn pryderu bod natur yn ail pell wrth lunio polisi. Gyda chymaint o wirfoddolwyr o blith rhanddeiliaid amrywiol wedi dod i lanhau’r traeth heddiw, mae’n amlwg bod y cyhoedd yn mynnu cymryd camau brys i fynd i’r afael â phla cyfoes plastig untro.

“Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn datgan yn glir bod rhwng 8 a 13 miliwn tunnell o blastig yn mynd i mewn i’n cefnforoedd bob blwyddyn. Yn wir, dros ddarn 100 metr o draeth, codwyd cyfartaledd o 92.4 eitem o blastig yn ystod y Great British Beach Clean yn 2020, y mwyafrif ohonyn nhw’n wastraff cyhoeddus. 

“Mae’r gwirfoddolwyr yma heddiw yn gytûn bod angen polisi rhagweithiol i fynd i’r afael â hyn, a dyna pam rwyf ers tro wedi bod o blaid mabwysiadu dull deublyg o waharddiad amodol ar rai deunyddiau untro a chyflwyno cynllun dychwelyd ernes.” 

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda mynychwyr yr ymgyrch traeth glân.

 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree