Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders wedi mwynhau cyfarfod bord gron lletygarwch cadarnhaol

  • Tweet
Sunday, 18 July, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi croesawu’r ‘cynnydd cadarnhaol a wnaed’ ar ôl iddi gynnal cyfarfod digidol gyda rhanddeiliaid lletygarwch i adolygu pa gymorth wedi’i dargedu sy’n ofynnol i fynd i’r afael ag effaith y diffyg staff presennol.

Mae’r gweithgor wrthi’n trafod cynnal ffair swyddi wedi’i thargedu yn lleol i godi’r ymwybyddiaeth o yrfaoedd galwedigaethol y gall pobl eu mwynhau yn y diwydiant. Law yn llaw â’r perchnogion busnes lleol hynny a oedd yn bresennol, clywodd y fforwm sylwadau gan Glenn Evans (Cyfarwyddwr Gwesty’r Royal Oak a Gwesty’r Waterloo), Berin Jones (Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno), Chris Frost (Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru) a Lawrence Wood (Pennaeth Coleg Llandrillo).

Yn rhoi sylwadau ar y cyfarfod, dywedodd Janet:

“Mae ein busnesau lletygarwch lleol yn cynnig cyfleoedd am swyddi hirdymor a gwerth chweil i lawer o deuluoedd a phobl ifanc lleol.

“Ond mae’r areitheg gan rai yn ystod y deunaw mis diwethaf, er yr heriau sylweddol sy’n wynebu ein busnesau twristiaeth a lletygarwch, wedi gwneud i rai pobl benderfynu peidio â dilyn gyrfa fel hyn yn lleol. Mae hyn yn siomedig dros ben, yn enwedig gan ei fod yn sector perffaith i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli amser.

“Dyna pam fy mod yn hynod falch gyda’r cynnydd cadarnhaol a wnaed yn ystod fy nghyfarfod bord gron i randdeiliaid, gan sbarduno sgyrsiau cydweithredol gyda’n sefydliadau addysgol lleol i edrych ar gynnal ffair swyddi wedi’i thargedu i godi ymwybyddiaeth o’r gyrfaoedd galwedigaethol y gall pobl eu mwynhau.

“Gwnaeth y cyfarfod hwn hi’n amlwg pa mor niweidiol y byddai unrhyw dreth dwristiaeth arfaethedig yng Nghymru, gan roi bywoliaethau a swyddi yn y fantol. Fel y dywedais yn y cyfarfod, mae angen i ni ganolbwyntio ar helpu ein diwydiant twristiaeth i daro yn ôl ar ôl y pandemig ac annog pobl i ymweld â Chymru, yn hytrach na’u cosbi yn economaidd.

“Pwysleisiodd hefyd y dylid mynd ati i egluro’n well y sefyllfa drwyddedu ar gyfer ein gweithwyr ieuengaf. Mae cyflogi pobl ifanc dan oedran gadael ysgol heb Drwydded Gwaith yn gwbl anghyfreithlon, ond tynnodd y cyfarfod bord gron hwn sylw at yr angen i ddarparu rhagor o wybodaeth am ba Asesiadau Risg a ffurflenni y dylid eu cwblhau i sicrhau eu diogelwch.”

DIWEDD 

Ffoto: Kathryn Giberson/Unsplash

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree