Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Fforwm rhithiol Janet i Westywyr yn ‘gam cyntaf hanfodol a chadarnhaol tuag at adferiad’

  • Tweet
Wednesday, 10 February, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (10 Chwefror), cynhaliodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – y bwrdd crwn digidol cyntaf yn ei chyfres barhaus, sy’n edrych ar lunio blaengynllun cadarnhaol ar gyfer y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch.  

Roedd fforwm rhithiol heddiw, a oedd yn edrych ar effaith pandemig y Coronafeirws ar westai lleol, yn cynnwys anerchiadau arbennig gan Berin Jones (Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno) a Jim Jones (Cyfarwyddwr Twristiaeth Go North Wales.) Ymysg y pynciau a drafodwyd oedd yr angen am fwy o fanylion ar gynllun ailagor a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio manteisio ar gynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r gyfres amrywiol iawn hon, bydd Janet yn cynnal fforymau gyda chynrychiolwyr o barciau twristiaeth, lletai gwely a brecwast, bwytai a chaffis, tafarnau a bariau, busnesau bach a manwerthwyr yn Aberconwy. Yn ystod y fforwm nesaf, bydd cynrychiolwyr y sector llety hunanddarpar yn clywed anerchiadau arbennig gan Barbara Griffiths (North Wales Holiday Cottages) a Berin Jones.

Wrth siarad ar ôl y sesiwn, meddai Janet:

“Roedd yr angen am y fforwm hwn yn amlwg – mae tua 31% o swyddi yn dal mewn perygl ledled ardal Cyngor Bwrdeistref Conwy a’n hardal ni sydd â’r ganran uchaf yn y Gogledd o gyflogwyr sy’n ddibynnol ar y sector mewn perygl hwn am eu hincwm  

“Gyda hyn mewn golwg, roedd y sesiwn gyntaf, mewn cyfres amrywiol iawn o ddigwyddiadau rhithiol sy’n cwmpasu holl elfennau’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch, yn gam cyntaf hanfodol a chadarnhaol tuag adferiad economaidd Aberconwy. Mae’n glir bod y dyhead lleol i lwyddo yn dal i fod yn gryf – mae’n rhaid i bolisi geisio ailadrodd hyn. 

“Wrth gwrs, mae yna nifer o gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i gefnogi twristiaeth ar hyn o bryd. Y prynhawn yma, byddaf yn gofyn i’r Gweinidog Cyllid weithio gyda’i chydweithwyr ac awdurdodau lleol i ddiystyru costau fel trwyddedau parcio, trwyddedau priodas ac yfed.

“Mynegodd mynychwyr fforwm heddiw yn glir hefyd y dylai llunwyr penderfyniadau ym Mae Caerdydd geisio rhoi sicrwydd yn syth i’r sector drwy roi’r gorau i’r camsyniad bod y system haenau yn gynllun adfer. Yn hytrach, mae’r sector angen trywydd sy’n parchu’n dibyniaeth ar ymwelwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

“Mae angen mwy o sicrwydd, ac mae busnesau lleol angen gwybod a allan nhw agor erbyn y Pasg er mwyn dechrau cynllunio recriwtio staff, trefnu cyflenwadau, a derbyn archebion. Does dim modd rhagweld y dyfodol drwy belen risial, ond bydd cydweithio â’r diwydiant yn sicrhau nad ydynt yn cael eu hanwybyddu.

“Mae cyfarfod cynhyrchiol heddiw wedi arwain at gamau gweithredu pendant y byddaf yn ceisio eu rhoi ar waith. Wrth gydnabod y llwyddiant hwn, rwy nawr yn edrych ymlaen at y sesiynau nesaf, a fydd yn cynnwys anerchiad arbennig gan arbenigwyr. Rwy’n annog perchnogion busnes lleol i fynychu’r digwyddiad penodol hwn.” 

DIWEDD 

Nodiadau i olygyddion:

  • Dyma amserlen sesiynau fforwm Aberconwy’r dyfodol:  
      1. Fforwm Gwestywyr: 9:30 – 11:00 am 10/02/2021  
      2. Fforwm Llety Hunanddarpar: 9:30 – 11:00 am 17/02/2021 
      3. Fforwm Parciau Twristiaeth: 10:30 am -12:00 pm 20/02/2021
      4. Fforwm Tafarnau, Bariau a Bwytai: 9:30 – 11:00 am 24/02/2021 
      5. Fforwm Tai Llety a Gwely a Brecwast: 9:30 – 11:00 am 03/03/2021 
      6. Fforwm Busnesau Bach a Manwerthu: I’w gadarnhau
  • Bydd Janet yn holi Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfarfod llawn rhithiol y prynhawn yma. Gallwch ei wylio yn fyw ar www.senedd.tv  

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree