Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight at Eryi / Snowdonia National Park being ranked by Lonely Planet amongst the top 14 places to visit in Europe during Winter.
In the list published last month, Lonely Planet ranked Snowdonia third, stating:
“Snowdonia, a varied national park in northern Wales consisting of a dramatic assemblage of mountains, glittering coastline, lakes, ancient woodland and roaring waterfalls, could well be covered in the white stuff in the winter. There will certainly be some weather. But that doesn’t need to stop thrill seekers who take the proper precautions.”
Commenting on the success of the local tourism sector, Janet said:
“All involved in the tourism sector should be proud that there tireless efforts are ensuring that Eryri is ranked amongst the top destinations in Europe.
“The opportunity this presents is incredible. With travellers globally turning to Lonely Planet for inspiration, every tourism body in Wales should now be receiving support from Welsh Government to boost promotion, and capitalise on this exciting chance at what is historically a difficult season.
“With Manchester, Liverpool, and Birmingham airports the closest to our national park, I hope that a major effort is being made to promote Eryri in arrivals”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am ei balchder bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi'i enwi gan Lonely Planet fel un o'r 14 lle gorau yn Ewrop i ymweld â nhw yn ystod y gaeaf.
Yn y rhestr a gyhoeddwyd fis diwethaf, rhestrodd Lonely Planet Eryri yn y trydydd safle, gan ddweud:
“Gallai Eryri, parc cenedlaethol amrywiol yng ngogledd Cymru sy'n cynnwys casgliad dramatig o fynyddoedd, arfordir disglair, llynnoedd, coetir hynafol a rhaeadrau nerthol, fod wedi'i orchuddio gan eira yn y gaeaf. Yn sicr, bydd rhywfaint o dywydd garw. Ond does dim angen i hynny atal pobl sy'n cymryd y rhagofalon priodol.”
Wrth sôn am lwyddiant y sector twristiaeth lleol, dywedodd Janet:
“Dylai pawb sy'n ymwneud â'r sector twristiaeth fod yn falch iawn bod eu hymdrechion diflino yn sicrhau bod Eryri ymhlith y prif gyrchfannau yn Ewrop.
“Mae'r cyfle mae hyn yn ei gynnig yn anhygoel. Gyda theithwyr o bedwar ban byd yn troi at Lonely Planet am ysbrydoliaeth, dylai pob corff twristiaeth yng Nghymru nawr fod yn derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i hybu ymdrechion hyrwyddo, a bachu ar y cyfle cyffrous hwn ar gyfer tymor sy'n hanesyddol yn un anodd.
“Gyda meysydd awyr Manceinion, Lerpwl a Birmingham ar garreg ein drws, rwy'n gobeithio y bydd ymdrech fawr yn cael ei gwneud i hyrwyddo Eryri yn eu neuaddau cyrraedd”.
DIWEDD