Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Dull ymdrin ag Adroddiad Holden yn cyfiawnhau ymchwiliad

  • Tweet
Friday, 19 November, 2021
  • Local News

Ar ôl agor arddangosfa Hanes Iddewig Llandudno newydd yn swyddogol yn Amgueddfa Llandudno, yn dilyn adroddiad beirniadol i fethiannau mewn uned iechyd meddwl dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wyth mlynedd ar ôl ei gwblhau ac ar ôl ymyrraeth gan y Comisiynydd Gwybodaeth a’r Siambr Rheoleiddio Cyffredinol, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi pwysleisio’r angen am ymchwiliad i reolaeth y Bwrdd.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan Robin Holden, yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd mewn cyfweliadau yn ystod yr ymchwiliad yn 2013. Mae’n canfod bod perthynas wael rhwng staff a rheolwyr ar Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, wedi rhoi cleifion mewn perygl. Mewn diwylliant o fwlio ac ysbryd isel, mae hefyd yn dod i’r casgliad na aethpwyd i’r afael â phryderon am ddiogelwch cleifion.

Gwnaeth yr adroddiad 14 tudalen 19 o argymhellion i’r Bwrdd Iechyd, a gyhoeddodd gopi wedi’i olygu yn 2015. Ysgrifenwyd Adroddiad Holden rai wythnosau yn unig cyn cau’r uned dementia Tawel Fan 17 gwely yn Uned Ablett ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, gan nodi honiadau dychrynllyd iawn am ofal cleifion.

Yn rhoi sylwadau ar gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Janet:

“Dylai’r dystiolaeth dirdynnol gan staff rheng flaen a oedd yn cael eu gorweithio yn yr adroddiad hwn yn rhywbeth y dylai pob swyddog cyhoeddus gnoi cil drosto.

“Mae’n gwbl annerbyniol bod adroddiad mor bwysig â hwn, a ffurfiwyd o 700 tudalen o dystiolaeth a ddarparwyd gan 45 aelod o staff, heb ei rannu gyda’r cyhoedd am gyn hired. Gobeithio y bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi tawelwch meddwl hirddisgwyliedig i’r rhai yr effeithiwyd arnynt a’u teuluoedd.

“Mae’n amlwg nad yw ymyrraeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig,  pan na welodd yr adroddiad hwn olau dydd, wedi gwneud llawer i fynd i’r afael â’r diffyg tryloywder a diwylliant sy’n amharod i ddwyn pobl i gyfrif.

“Gyda nodiadau eang ar brinder staff ar wardiau i’r pwynt bod gofal corfforol sylfaenol a sylw i hylendid personol, ar adegau, yn cael ei esgeuluso, ynghyd â phryderon am fwlio a strwythurau rheoli aneffeithiol, mae’r ffordd yr ymdriniwyd â’r adroddiad hwn yn ychwanegu at y cyfiawnhad dros ymchwiliad i reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae datganiad gan y Bwrdd Iechyd a chopi o Adroddiad Holden ar gael yma. 

Llun: gan Hush Naidoo Jade Photography ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree