
The Welsh Labour Government are continuing to let the public, staff, and health services in North Wales down.
As of February 2025, 80,907 pathways at the Betsi Cadwaladr University Health Board were waiting over 36 weeks to start treatment, 8,304 waiting over two years, and only as little as 37.6% of patients seen within the 4 hour target at A&E (in March 2025).
The monthly median response times for red calls for the Betsi Cadwaladr University Health Board as of March was 10 minutes 38 seconds. This is above the 8 minutes target.
Janet Finch-Saunders, the Member of Welsh Parliament for Aberconwy, has stated that these failings are unacceptable and having a direct impact on the lives of people in Wales.
Commenting on the failings of health services in North Wales, Janet said:
“The current performance of our local Health Board is simply not good enough. Each month there are new health statistics that highlight continued failing and suffering, such as by patients needed dermatology appointments, cataracts, and orthopaedic surgery.
“Whilst over 8,000 treatment pathways are waiting over 2 years here in Wales, in the whole of England there are less than 200.
“With some Aberconwy Constituents learning that their expected treatment pathway wait is over a year and a half wait away. This is completely unacceptable.
“Even as Senedd Members, when we raise our constituent’s cases with the health board, there are frequent slow responses and delays, which causes even more concern for those in need of urgent treatment and often leaves them feeling unheard.
“There needs to be greater cooperation between Welsh health boards, and medical services elsewhere in the UK. At present, there is a completely unjust postcode lottery”.
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i adael y cyhoedd, staff a gwasanaethau iechyd i lawr yng Ngogledd Cymru.
Ym mis Chwefror 2025, roedd 80,907 o lwybrau triniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth, 8,304 yn aros dros ddwy flynedd, a dim ond cyn lleied â 37.6% o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed 4 awr yn yr uned damweiniau ac achosion brys (ym mis Mawrth 2025).
Yr amseroedd ymateb canolrifol misol ar gyfer galwadau coch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Mawrth oedd 10 munud 38 eiliad. Mae hyn yn uwch na'r targed o 8 munud.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi dweud bod y methiannau hyn yn annerbyniol ac yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yng Nghymru.
Wrth sôn am fethiannau gwasanaethau iechyd yn y Gogledd, dywedodd Janet:
"Dyw perfformiad presennol ein Bwrdd Iechyd lleol ddim yn ddigon da. Bob mis mae ystadegau iechyd newydd yn tynnu sylw at fethiannau a dioddefaint parhaus, megis gan gleifion sydd angen apwyntiadau dermatoleg, triniaeth cataract, a llawdriniaethau orthopedig.
"Tra bod dros 8,000 o lwybrau triniaeth yn aros dros 2 flynedd yma yng Nghymru, yn Lloegr gyfan mae llai na 200.
"Mae rhai o etholwyr Aberconwy wedi clywed bod eu llwybr triniaeth disgwyliedig dros flwyddyn a hanner i ffwrdd. Mae hyn yn gwbl annerbyniol.
"Hyd yn oed fel Aelodau o'r Senedd, pan fyddwn ni’n codi achosion ein hetholwyr gyda'r bwrdd iechyd, mae oedi cyn ymateb yn aml, sy'n achosi hyd yn oed mwy o bryder i'r rhai sydd angen triniaeth frys ac yn aml yn eu gadael yn teimlo fel eu bod yn cael eu hanwybyddu.
"Mae angen mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd Cymru, a gwasanaethau meddygol mewn rhannau eraill o'r DU. Ar hyn o bryd, mae yna loteri cod post cwbl anghyfiawn".
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS