Yesterday, the UK Government’s Budget failed to commit to funding defence to 3% of GDP by 2030. This is deeply concerning at a time of global uncertainty and fails to take into consideration the vital role the defence industry plays in keeping us safe and growing the economy.
Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Bangor, Conwy Môn, has spoken in the Senedd Chamber about the important role Wales’s defence industry plays. She commented:
“It was deeply disappointing that the Chancellor delayed outlining how he will increase defence spending to 3% of GDP until spring next year. This increase in spending is essential for our security and the Welsh economy.
“Wales already plays a significant role in the defence of the United Kingdom, and an increase in defence spending will provide greater opportunities for Wales. The defence sector will create more jobs and is an excellent partner for our colleges and universities, offering apprenticeships and training.
“I call on the First Minister to work with the UK Labour Government to ensure that these opportunities are maximised for Wales.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Ddoe, methodd Cyllideb Llywodraeth y DU ag ymrwymo i ariannu amddiffyn i swm sy’n cyfateb i 3% o gynnyrch domestig gros erbyn 2030. Mae hyn yn achos pryder mawr ar adeg o ansicrwydd byd-eang ac nid yw'n ystyried y rôl hanfodol y mae'r diwydiant amddiffyn yn ei chwarae wrth ein cadw'n ddiogel ac wrth dyfu'r economi.
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros etholaeth Bangor Conwy Môn, wedi siarad yn Siambr y Senedd am y rôl bwysig y mae diwydiant amddiffyn Cymru yn ei chwarae. Meddai:
"Roedd hi’n siomedig iawn bod y Canghellor wedi oedi cyn amlinellu sut y bydd yn cynyddu gwariant amddiffyn i 3% o gynnyrch domestig gros a gwneud i ni aros tan y gwanwyn. Mae'r cynnydd hwn mewn gwariant yn hanfodol o ran ein diogelwch ni ac o ran economi Cymru.
"Mae Cymru eisoes yn chwarae rhan hollbwysig yn amddiffyn y Deyrnas Unedig, a bydd cynnydd mewn gwariant amddiffyn yn darparu mwy o gyfleoedd i Gymru. Bydd y sector amddiffyn yn creu mwy o swyddi ac mae'n bartner ardderchog i'n colegau a'n prifysgolion, gan gynnig prentisiaethau a hyfforddiant.
"Rwy'n galw ar y Prif Weinidog i weithio gyda Llywodraeth Lafur y DU i sicrhau bod Cymru’n cael cymaint o gyfleoedd â phosibl."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS