Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Datganwyd fod deddfwriaeth Llywodraeth Leol Cymru yn ‘Fethiant Llwyr’ wrth i Gynghorau ‘Cyfrinachol’ cael eu datgelu

  • Tweet
Friday, 31 August, 2018
  • Senedd News
Senedd

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cael gafael ar ffigyrau sydd yn dangos tryloywder gwael yn gynghorau tref a chymuned ledled Cymru, wrth i fynediad i gofnodion a chyfarfodydd fod yn ‘anghyson’.

 

Allan o’r 734 cyngor cymunedol yng Nghymru, nid oes gan 10% (74) wefan, tra bod 69 heb e-bost a 19 ddim efo presenoldeb ar lein.

 

Mae defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn frin, efo dwy ran o dair o 510 o gynghorau heb fynediad i Facebook na Twitter -  sydd yn costio dim i'w rhedeg. Mond 85 cyngor sydd efo’r ddau, tra bod 126 mond efo Facebook a 12, Twitter.

 

Mae cyfieithiad Cymraeg hefyd yn frin gan fod dim ond traean (245) o 659 o’r cynghorau sydd efo wefan efo’r opsiwn o gyfieithu tudalennau mewn i Gymraeg neu Saesneg. 

 

Sir Gar sydd efo’r nifer mwyaf (5) o gynghorau tref a chymunedol heb bresenoldeb ar lein, tra bod Ceredigion a Conwy efo 4 pedwar yr un.

 

Mae hyn pum mlynedd ar ôl Deddf Llywodraeth Llafur Cymru: Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013. Yn ôl y ddeddfwriaeth mae rhaid i gynghorau cymunedol gyhoeddi gwybodaeth a hysbysiadau yn electronig.

 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg o gynghorau tref a chymuned.

 

Dywedodd Janet Finch-Saunders, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol:

 

“Tra bod Llywodraeth Llafur Cymru efo obsesiwn ac ad-drefnu cynghorau, nid ydynt wedi llwyddo i gyflawni eu hamcanion deddfwriaethol a bennwyd pum mlynedd yn ôl.

 

“Mae’r ffaith bod nifer mor fawr o gynghorau cymuned a thref, sydd yn gyfrifol am arian cyhoeddus ac yn gwneud penderfyniadau ar ran cymdeithas, yn gweithio mewn ffordd mor gyfrinachol yn warthus ac, yn syml, yn gwrth-ddemocrataidd.

 

“Os ydi Cymru yn wlad ddemocrataidd, yna ni ellir goddef y diwylliant caeedig yma.

 

“Mae sefydlu gwefan a chael cyfeiriad e-bost yn rhan hawdd a sylfaenol o ymgysylltu, ac mae gwneud cofnodion a chyfarfodydd yn gyhoeddus yn cael eu mynnu gan gyfraith y wlad.

 

“Mae’n amser i Ysgrifennydd y Cabinet dyfu asgwrn cefn a deud wrth cynghorau tref a chymunedol bod rhaid iddynt foderneiddio a derbyn yr atebolrwydd sy'n dod gyda'r swydd”.

 

DIWEDD

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree