Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Datblygiad Ffordd Nant-y-Gamar/Caeau Bodafon: Llythyr yn galw am wrthod caniatâd cynllunio

  • Tweet
Monday, 19 July, 2021
  • Local News

Mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r datblygiad arfaethedig ar Ffordd Nant-y-Gamar/Caeau Bodafon. Dyma'r datblygiad diweddaraf yn yr ymgyrch hir hon. Mae'r Aelod eisoes wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i roi cyfle gwerthfawr i drigolion a rhanddeiliaid lleol holi'r rhai y tu ôl i'r datblygiad.  

Mewn llythyr chwe thudalen cynhwysfawr a beirniadol at Bennaeth Adran Gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Janet wedi canolbwyntio ar saith gwrthwynebiad craidd: 

  1. Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA): Mae Janet yn awgrymu bod y datblygiad sy'n cael ei ystyried yn gwrthdaro â'r LHMA, yn enwedig y cymysgedd a argymhellir o fathau o dai, a bod yr ymgais ymddangosiadol i awgrymu bod amgylchiadau lleol yn gofyn am yr amrywiad hwn yn afresymol oherwydd bod data ledled Cymru wedi'i ddefnyddio i geisio dangos yr angen yn Llandudno.
  2. Tirwedd: Mae'r safle'n Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig, gyda'r Aelod yn ystyried ei bod yn debygol y gallai'r datblygiad fynd yn groes i'r Prif Argymhelliad Rheoli i 'beidio ag annog ymlediad datblygiadau trefol i'r bloc hwn o gefn gwlad,' ac y gallai wrthdaro â'r gofyniad polisi cynllunio i ddiogelu a lle'n briodol wella'r dirwedd hanesyddol.
  3. Ysgol y Gogarth: Mynegwyd pryderon nad yw'r datblygiad yn cyd-fynd â'r gofyniad canlynol yn DP/3, y Cynllun Datblygu Lleol: ‘Dylid ystyried yr effaith ar eiddo cyfagos.' Mae Janet yn pryderu am sŵn, aflonyddwch a niwsans posibl a allai gael eu hachosi i Lys Gogarth, ac na fydd gan y cyfleuster preswyl sy'n cynorthwyo rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal amodau delfrydol mwyach i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo.
  4. Priffyrdd: Codwyd pryderon difrifol gyda'r Aelod ynglŷn â'r effaith y byddai'r datblygiad yn ei chael ar Ffordd Nant-y-Gamar, a phriffyrdd eraill yn yr ardal, gan gynnwys Ffordd Fferm Bach, Ffordd Tan-y-Bryn, a Ffordd Bodafon.  Awgrymwyd, yn seiliedig ar faterion sy'n ymwneud â phriffyrdd yn unig, y gallai'r datblygiad fod yn groes i nifer o bwyntiau'r polisi cynllunio.  
  5. Parcio: Mae'r llythyr yn amlinellu bod STR/2 – Safonau Parcio, y Cynllun Datblygu Lleol, yn dweud y dylai 'darpariaeth parcio ceir fod yn unol â safonau uchafswm y Cyngor, i leihau dibyniaeth ar y car ac i hyrwyddo mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth’. Ar ôl adolygu'r lluniadau, mae Janet o'r farn nad yw'n glir bod uchafswm o 3 lle parcio wedi'u dyrannu i 81% o'r eiddo.   
  6. Mannau Chwarae i Blant: Er bod yr ymgeisydd wedi ceisio dangos bod amgylchiadau eithriadol y gellir eu cyfiawnhau am fethu â chadw at Bolisi CFS/11, y Cynllun Datblygu Lleol, ac felly wedi cynnig darparu cyfraniad oddi ar y safle, mae Janet yn gofyn am ystyriaeth ofalus ynghylch a yw'r gofyniad i 'amgylchiadau eithriadol y gellir eu cyfiawnhau' ar gyfer darparu swm gohiriedig yn hytrach na darpariaeth ar y safle wedi'i fodloni.  
  7. Amgylchedd Hanesyddol: Mae GAPS wedi gwneud argymhelliad rhesymol y dylid cynnal Arolwg Geoffisegol. Mae'r ymgeisydd wedi cytuno, ac roedd disgwyl i'r arolwg ddechrau ar 7 Gorffennaf 2021. Ond nid yw canlyniad yr arolwg wedi'i gyhoeddi. 

Mae'r cais am ddatblygiad preswyl newydd, sydd i'w adeiladu ar safle wrth gefn, yn cynnig adeiladu 49 o anheddau, ynghyd â mannau agored cyhoeddus cysylltiedig, mynediad i Ffordd Nant-y-Gamar, a'r seilwaith angenrheidiol ar y safle. Mae'r llythyr yn nodi bod Cyngor Tref Llandudno wedi argymell gwrthod y cais cynllunio hefyd. 

Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet: 

“Mae ein cymuned yn falch iawn, fel y dylai fod, o'r gofal, yr addysg a'r gefnogaeth eithriadol a ddarperir gan Ysgol y Gogarth.  Fel yr amlinellaf yn fy llythyr, teimlaf fod perygl gwirioneddol y gallai'r datblygiad, gan ei fod mor agos at y cyfleuster preswyl sy'n cynorthwyo rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein hardal, effeithio ar yr amodau sy'n galluogi'r myfyrwyr ifanc hyn i lwyddo.  

“Rwyf wedi bod yn glir yn gyson bod yn rhaid i unrhyw gynigion weithio mewn cytgord â'r seilwaith presennol. Mae'n hysbys yn lleol bod llawer iawn o draffig ar y priffyrdd a reolir gan yr Awdurdod Lleol a'i fod yn beryglus o bosibl, rhywbeth na allai'r datblygiad arfaethedig hwn ond ei waethygu ymhellach.  

“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddai'r ystâd yn golygu cynnydd yn y traffig sy'n defnyddio Ffordd Fferm Bach a Ffordd Tan-y-Bryn. Mae hyn yn peri pryder mawr oherwydd, drwy gymeradwyo'r datblygiad, byddai'r Awdurdod Cynllunio'n galluogi mwy o ddefnydd o briffordd sydd heb balmant ar ei hyd i gyd yn ogystal â chornel ddall. 

“Ynghyd â'r diffyg parcio posibl a chyfleusterau chwarae i blant, mae amheuon difrifol bellach ynghylch manteision tybiedig y datblygiad hwn. Mae'n bryder sydd wedi llenwi fy mewnflwch e-bost yn gyson ac, yn anffodus, nid yw'r cyfarfodydd rhanddeiliaid yr wyf wedi bod yn falch o'u trefnu wedi gwneud digon i leddfu fy mhryderon. 

“Mae nifer sylweddol o gynrychiolwyr etholedig Llandudno – o Gyngor y Dref i Senedd Cymru – yn gwrthwynebu i'r datblygiad hwn fynd rhagddo, gan ein harwain ni i gyd i gymryd camau digynsail i bwysleisio pryderon trigolion. Gofynnaf yn awr i Bwyllgor Cynllunio'r Awdurdod Lleol sefyll gyda ni a gwrthod caniatâd am y rhesymau a nodir yn fy llythyr.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Mae copi o'r llythyr ynghlwm.

Ffotograff: Caeau Bodafon/Google

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree