Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Data'n dangos mai brenhines trefi glan môr Cymru sy'n adfer gyflymaf yn y DU.

  • Tweet
Friday, 17 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion bod Llandudno wedi ailgodi ar ei thraed gyflymaf ers cyfnodau clo'r DU, o gymharu â holl strydoedd mawr y DU.  Roedd adroddiad newydd gan Takepayments Limited yn ystyried data o wythnos llacio’r cyfyngiadau olaf yn Lloegr (19 Gorffennaf 2021). Er na chafodd cyfyngiadau Cymru eu llacio ar yr un dyddiad, gwelwyd bod pobl wedi gwario 46% yn fwy gyda chardiau banc yn Llandudno o gymharu â'r un cyfnod cyn y pandemig (2019).

Wrth groesawu data hwn, dywedodd Janet:  

“Mae'n drist bod y stryd fawr draddodiadol wedi'i chael hi'n anodd dros y blynyddoedd diwethaf wrth i ni newid ein ffordd o siopa. Mae'r ffaith bod Llandudno fel petai’n troi’r duedd negyddol hon ar ei phen, gan ddenu ymwelwyr sydd yr un mor debygol o wario arian wrth grwydro Dyffryn Conwy a'r cyffiniau, yn arwydd calonogol dros ben.

“Mae perchnogion busnesau lleol wedi dweud wrthyf fod y pythefnos diwethaf wedi bod yn brysurach nag erioed, gyda thymor yr haf eleni, er yn fyrrach nag arfer, yn gryn hwb. Mae'r gwestai yn llawn dop, buddsoddiadau sylweddol yn cael eu gwneud i ehangu'r cynnig twristiaeth, a chymaint o frwdfrydedd dros gryfhau'r sector fwy fyth.

“Gyda brenhines trefi glan môr Cymru wedi'i dewis fel un o drefi arfordirol prydfertha'r DU mewn arolwg diweddar ac wedi ennill y wobr aur yn nosbarth ‘Cymunedau Arfordirol’ Cymru yn ei Blodau, mae'n amlwg ein bod ni'n parhau i gynnig fformiwla llwyddiannus yng Nghymru am wyliau neu wibdaith hamddenol braf.

“Wrth edrych i'r dyfodol, mae'n hollbwysig nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno unrhyw gyfyngiadau diangen o gymhleth a allai effeithio ar yr adferiad hwn, megis pasbortau brechu sy'n heriol yn foesegol ac yn weithredol. Gyda phrinder staffio eisoes yn effeithio ar rai busnesau, rhaid peidio pentyrru rhagor o broblemau a phryderon ar ein perchnogion busnesau ar ben eu prysurdeb gwaith."

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS yn croesawu Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson AS San Steffan, i Landudno.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree