Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Daeth torf o ymwelwyr a thrigolion ynnghyd yn Llandudno i wasanaeth Sul y cofio

  • Tweet
Monday, 15 November, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol y dorf fawr o ymwelwyr a thrigolion a ddaeth ynghyd i wasanaeth Sul y Cofio yn Llandudno, gyda lluniau o'r awyr yn dangos y cannoedd a oedd wedi ymgynnull o amgylch Cofeb Ryfel y dref i "ddangos parch ac i fyfyrio’n ddwys.” Gosododd Mrs Finch-Saunders dorch wrth y Gofeb, a’r wythnos flaenorol cyfarfu â chynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol lle bu’n trafod y gefnogaeth y mae’r elusen yn ei rhoi i ofalwyr di-dâl yn y gymuned a thrwy'r gwasanaeth Nyrsio Admiral mewn partneriaeth â Dementia UK.

Wrth ddiolch i'r trefnwyr, dywedodd Janet: 

“Mae Sul y Cofio yn achlysur hiraethus iawn i gydfyfyrio ar wasanaeth ac aberth aelodau ein lluoedd arfog ym Mhrydain, y Gymanwlad, a thu hwnt. Nid aiff gwrhydri rhyfeddol o ddewr ac arwrol yn enw democratiaeth a rhyddid fyth yn angof. 

“Roedd yn anrhydedd cael gosod torch ar ran y gymuned yn y gwasanaeth hwn lle daeth torf dda ynghyd wrth Gofeb Rhyfel Llandudno, gydag oddeutu dwy fil a mwy yn bresennol i ddangos parch ac i fyfyrio’n ddwys. Roedd yn galonogol iawn gweld y fath gefnogaeth wrth inni allu cynnal gwasanaeth Sul y Cofio mwy traddodiadol unwaith eto. 

“Hoffwn dalu teyrnged i'n cangen leol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ein haelodau presennol a blaenorol o’r lluoedd arfog, y gwasanaethau sifil rheng flaen, Cyngor Tref Llandudno a staff clercio, urddasolion lleol ac unigolion fel Adrian Hughes o Amgueddfa Ffrynt Cartref wych y dref am eu rhan yn sicrhau bod y gwasanaeth pwysig hwn wedi ei gynnal mor llwyddiannus unwaith eto.” 

Cynhaliwyd Diwrnod cyntaf y Cofio ar 11 Tachwedd 1921, yn dilyn ymgyrch dan arweiniad Iarll Haig, Pengadfridog y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a sylfaenydd y Lleng Brydeinig. 

DIWEDD 

Llun gan Monica Galentino

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree